Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am danau trydanol yn dilyn tân mewn fflat ym Mhensarn

Postiwyd

Mae Swyddogion tân yn rhybuddio trigolion am beryglon tanau trydanol yn dilyn tân mewn fflat ym Mhensarn.

 

Cafodd criwiau o Fae Colwyn a'r Rhyl eu galw i fflatiau ar Marine Road, Pensarn am 14.57 o'r gloch ddoe, Mawrth 18 wedi i larwm mwg seinio rhybudd.  Bu'n rhaid i'r preswylwyr adael yr adeilad a chanfuwyd bod tân mewn fflat ar y pedwerydd llawr.

 

Fe ddefnyddiodd ddiffoddwyr tân wyth set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân.  Fe achosodd y tân ddifrod mwg, gwres a  thân difrifol yn yr ystafell fyw lle'r oedd y tân wedi cynnau a difrod mwg a dŵr i nifer o fflatiau eraill.

 

Y mae canfyddiadau cynnar yr ymchwiliad i achos y tân yn awgrymu bod y tân wedi ei achosi oherwydd nam trydanol.

 

Meddai Richard Everall o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 

"Wrth  lwc fe gafodd preswylwyr y fflatiau rybudd cynnar gan y larymau mwg a llwyddodd pawb i fynd allan yn ddiogel - mae'r digwyddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol unwaith yn rhagor.

 

"Rydym yn cael ein galw i oddeutu 470 o danau damweiniol y flwyddyn ac y mae trydan neu eitemau trydanol yn gyfrifol am oddeutu 300 o'r tanau hyn.

 

"Y mae bron i 90 o'r tanau hyn yn cael eu hachosi oherwydd namau trydanol - ond mae'r mwyafrif yn cael eu hachosi oherwydd bod pobl yn camddefnyddio eitemau trydan.

 

"Mae'n bwysig bod pobl yn defnyddio'r eitemau hyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'u bod yn archwilio eu heitemau trydan a lidiau rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio.  Y mae cymaint o drigolion yn defnyddio hen eitemau peryglus neu'n gorlwytho socedi, sydd yn golygu bod mwy o berygl iddynt ddioddef tân yn y cartref.

"Pam na rowch chi gynnig ar ein cyfrifiannell ampau ar ein gwefan neu'n tudalen Facebook-www.gwastan-gogcymru.org.uk neu www.facebook.com/Northwalesfireservice.

- fe fydd yn dweud wrthych os ydych yn gorlwytho socedi a'ch helpu i gadw'n ddiogel rhag tân trydanol."  

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diolwch tân am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod  i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yn y Gogledd.

 

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen