Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio gyda phartneriaid ar Ddiwrnod Dim Ysmygu

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno gyda phartneriaid mewn digwyddiadau ar hyd a lled y rhanbarth heddiw, sef Diwrnod Dim Ysmygu, i  annog ysmygwyr  i fod yn ymwybodol  o'r peryglon o danio sigaréts yn y cartref.

Ers y 1af o Ebrill 2012 rydym wedi cael ein galw i 75 o danau a oedd wedi eu hachosi gan ddefnyddiau ysmygu - digwyddodd 47 o'r rhain yn ystod y 11 mis diwethaf. Bu farw dau o bobl yn y tanau hyn a chafodd 19 o bobl eu hanafu - cafodd 11 eu cludo i'r ysbyty am driniaeth ac fe dderbyniodd wyth o bobl gymorth cyntaf yn y fan a'r lle.

Fe ddylai ysmygwyr fod yn ymwybodol o'r peryglon tân y maent yn eu hwynebu os na fyddant yn dewis rhoi'r gorau iddi,  dileu arferion peryglus, gosod larymau mwg ar bob lefel yn y cartref a'u profi'n wythnosol. Os oes gennych chi  larwm mwg gweithredol yn y cartref yna rydych ddwywaith yn fwy tebygol o fynd allan yn fyw.

"Heb system larwm sydd yn rhoi rhybudd cynnar, gallwch golli cyfle i ddianc o'r tân mewn pryd" meddai Terry Williams Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

"Mae anadlu mwg gwenwynig dim ond dau neu dri o weithiau yn gallu achosi i berson fynd yn anymwybodol.

"Mae defnyddiau ysmygu yn gallu arwain at danau dinistriol iawn yn y cartref.  Gall y tanau hyn fudlosgi am oriau ac yna lledaenu'n gyflym iawn gan ddatblygu'n danau difrifol yn gyflym iawn.

" Y ffordd orau i leihau'r peryglon yw rhoi'r gorau iddi - fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi bod hyn yn mynd i fod yn dasg a hanner i rai ysmygwr ac felly rydym yn cynghori pobl i gymryd pwyll wrth ysmygu yn y cartref  a chofio ei diffodd eu sigaréts  yn llwyr ar ôl gorffen."

I ysmygwyr sydd ddim yn barod i roi'r gorau iddi'r Diwrnod Dim Smygu hwn, mae'n bwysig dilyn y canllawiau syml yma i atal tân yn y cartref:

- Diffoddwch hi, yn llwyr! Gwnewch yn siŵr fod y sigarét wedi ei diffodd yn llwyr
- Gosodwch larwm mwg a'i brofi'n wythnosol. Mae larwm mwg yn gallu rhoi amser gwerthfawr pan fyddwch chi'n dianc, arhoswch allan a ffoniwch 999
- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely. Byddwch yn ofalus pan fyddwch chi wedi blino. Mae'n hawdd iawn syrthio i gysgu pan fydd eich sigarét yn dal i losgi a chynnau tân yn y dodrefn.
- Peidiwch â chymryd cyffuriau ac alcohol wrth ysmygu. Mae'n hawdd peidio â chanolbwyntio wrth ddefnyddio unrhyw fath o gyffuriau neu yfed, gallai fod yn farwol wrth gael ei gyfuno gyda sigaréts.                                       -Peidiwch byth a gadael sigaréts, sigarau neu getyn ar eu pennau eu hunain - mae'n bosib iddynt syrthio drosodd wrth iddynt losgi
- Defnyddiwch flwch llwch addas a thrwm sydd ddim yn gallu syrthio drosodd yn hawdd ac wedi ei wneud o ddefnydd sydd ddim yn llosgi.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref  am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg os oes angen - a'r cyfan am ddim.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yn y Gogledd.

 

I gofrestru am archwiliad, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk, neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen