Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd ar ôl i ddrych achosi tân ym Mhenarlâg

Postiwyd

 

Yn dilyn y tywydd heulog diweddar ac achos o dân a achoswyd gan olau'r haul ym Mhenarlâg, mae diffoddwyr tân yn rhybuddio trigolion am beryglon gosod drychau a gwrthrychau gwydr yng ngolau'r haul.

 

Fe anadlodd y preswylwyr, sef gŵr a gwraig, fwg yn dilyn tân yn eu cartref yn The Highway, Penarlag am 16.13 o'r gloch Ddydd Gwener, 7fed Mawrth.

 

Cafodd diffoddwyr tân o Lannau Dyfrdwy eu galw i'r eiddo ar ôl i larymau mwg eu rhybuddio o'r tân yn yr ystafell wely.

 

Fe geisiodd y gŵr ddiffodd y tân ei hun ond roedd gormod o fwg.  Aethpwyd â'r ddau i'r ysbyty am driniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan belydryn haul a oedd yn disgleirio ar ddrych.

 

Meddai Justin Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn dangos pa mor hawdd yw hi i dân gynnau ac mae hefyd yn dwyn i'r amlwg bwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn eich cartref fel y gallwch chi a'ch teulu dderbyn rhybudd cynnar o dân er mwyn mynd allan yn fyw.

 

"Cafodd y tân ei achosi wedi i olau oedd yn adlewyrchu o ddrych bychan amgrwm boethi a rhoi'r llenni ar dân.  O ganlyniad fe ledaenodd y tân.  Cafodd y preswylwyr eu rhybuddio am y tân ar ôl clywed y larwm mwg yn seinio.  

 

"Gall pelydrau'r haul gael eu  chwyddo gan lens neu  ddrych a ffocysu ar wrthrychau cyfagos megis llenni, dillad neu hyd yn oed ddodrefn, darnau gosod a gosodiadau pren a phlastig.  Yn aml iawn mae hyn yn achosi marciau llosg a all achosi i'r gwrthrych fudlosgi neu fynd ar dân.

 

"Gyda'r nos, yn y bore ac yn ystod y gaeaf mae'r haul yn gorwedd yn isel.  Oherwydd bod pelydrau'r haul yn taro'r ddaear ar ongl is ar yr adegau hyn  mae'n hynod bwysig eich bod yn ymwybodol o wrthrychau megis drychau ac addurniadau gwydr, os ydy'r rhain yn cael eu cadw yng ngolau'r haul. Yn aml iawn mae'r rhain yn cael eu gosod ar silffoedd neu uwch ben droriau sydd wrth ymyl ffenestri.

 

"Er bod digwyddiadau o'r math yma yn dra anghyffredin, mae'r un egwyddor â chwyddo pelydrau'r haul gyda chwyddwydr, ac felly gall golau'r haul achosi i eitemau cyffredin yn y cartref fynd ar dân fel yn achos y digwyddiad hwn.

 

"Ceisiodd y gŵr dan sylw ddiffodd y tân ei hun ond fe anadlodd fwg o ganlyniad.  Rydym yn erfyn ar drigolion i adael y gwaith yma i ni - ein cyngor ydy ewch allan, arhoswch allan a galwch ni allan."

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diolwch tân am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod  i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yn y Gogledd.

 

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen