Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd Tywydd Difrifol

Postiwyd

O ganlyniad i'r rhybuddion tywydd  'coch' - tywydd difrifol - sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer Gogledd Cymru i  gyd, mae ymateb amlasiantaeth wedi cychwyn sy'n cynnwys yr holl asiantaethau brys, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.

 

Disgwylir y bydd gwyntoedd uchel yn effeithio  ardal  sy'n ymestyn o'r Bermo hyd at, ac yn cynnwys holl ardaloedd arfordirol Ynys Môn a chyn belled â Chonwy a Sir Ddinbych.

 

Dylid disgwyl oedi ar y ffyrdd a chynghorir pobl i edrych a yw gwasanaethau trenau a bysiau yn rhedeg. Bydd ysgolion yn gwneud penderfyniadau ynghylch yr angen i gau a gofynnir i rieni gael gwybodaeth am hyn yn lleol.Ar hyn o bryd mae'r ddwy bont i Ynys Môn ar agor, ond mae cyflymder y gwynt yn cael ei fonitro'n barhaus.

 

Mae'r holl briffyrdd ar agor fel arfer heb unrhyw rwystrau ar hyn o bryd ond mae'n bosibl y bydd rhai ffyrdd llai ar gau.

Meddai Prif Arolygydd Darren Wareing: "Rydym yn gofyn i bobl fod yn ofalus ac i ystyried a yw eu siwrne yn wirioneddol angenrheidiol.

 

"Os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon, ffoniwch 999 mewn argyfwng a byddwn yn gwneud defnydd o'r holl adnoddau priodol"

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen