Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn ddiogel wrth ddefnyddio stofiau coed

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu pwysigrwydd gosod stofiau coed yn gywir wedi nifer o danau yn yr ardal.  

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Wrth i'r tywydd oeri mae'n anorfod y byddwn yn treulio mwy o amser yn y cartref. Efallai y byddwch yn gwneud mwy i gadw'n gynnes megis defnyddio stofiau coed, ond fe allai hyn gynyddu'r perygl o dân yn y cartref.  Drwy ddilyn ein cyngor ni gallwch wneud yn siwr y byddwch yn cadw'n gynnes a diogel.

"Dylid defnyddio pren o'r ansawdd cywir mewn stofiau a boeleri sy'n llosgi coed ac fe ddylent gael eu gosod, eu cynnal a'u trin yn rheolaidd gan berson cymwys.

"Os nad ydy'ch stof goed yn llosgi'n gywir, cysylltwch â'r cwmni neu'r siop a'i gwerthoch i chi. Neu cysylltwch â Chymdeithas Gwneuthurwyr Cyfarpar Tanwydd Solet Prydain am gyngor."

Dyma ganllawiau:

  • Dyali'r stôf neu'r bwyler gael ei osod gan berson cymwys, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a chodau ymarfer y rheolau adeiladu.
  • Gwnewch yn siwr bod digon o aer yn dod i mewn i'r ystafell a bod y simnai yn lân.
  • Mae'n rhaid gosod stofiau a bwyleri sydd yn llosgi coed ar sylfaen  a all wrthsefyll tân.  Ni ddylid eu gosod yn syth ar loriau pren neu garpedi gan y bydd hyn yn cynyddu'r perygl o dân oherwydd tymheredd eithafol y blwch tân.
  • Fe ddylai'r pren fod wedi ei sychu'n dda. Y mae hyn fel arfer yn cymryd tua dwy flynedd. Mae gan goed sydd wedi sychu'n dda holltau arnynt.  Fe all coed gwlyb neu goed sydd newydd eu torri achosi i dar neu greosot gasglu yn y stôf neu'r simnai.
  • Oni bai eich bod yn cael gwared ar y creosot wrth i chi lanhau'r simnai bob blwyddyn, mae'n bosib y gall y creosot fynd ar dân ac achosi i'ch simnai fynd ar dân a all beryglu bywydau ac eiddo.  
  • Os ydy'r stôf wedi bod yn llosgi'n araf (drwy gydol y nos, efallai) fe ddylech adael iddi losgi ynghynt wedi hyn er mwyn sychu'r creosot a chynhesu'r simnai unwaith eto.
  • Fe ddylech lanhau'r simnai ar ôl y tymor gwresogi ac o leiaf unwaith yn ystod y tymor. Dylech hefyd archwilio'r stôf yn rheolaidd.
  • Peidiwch â phentyrru coed neu unrhyw ddefnyddiau hylosg eraill yn ymyl y stof neu'r bwyler. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael ei alw i danau sydd wedi eu hachosi gan goed a oedd wedi eu rhoi i bwyso yn erbyn stofiau coed.
  • Dylid addysgu plant am beryglon tanau ac ni ddylid eu gadael yn agos at arwynebeddau poeth neu ddrws y stôf.  Defnyddiwch gard tân pwrpasol sydd yn addas ar gyfer eich stôf.
  • Cymrwch bwyll arbennig wrth agor a chau'r stof   er mwyn ychwanegu coed i'r tân rhag ofn i chi losgi.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref y rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yn y rhanbarth. Yn ystod yr archwiliad fe fydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i  lunio cynllun dianc ac , os oes angen, gosod larymau mwg newydd yn eich cartref. I gofrestru, neu am ragor o wybodaeth am ddiogelwch tân yn y cartref, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 24 0800 169 1234.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen