Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu'r pump angheuol yn ystod Wythnos Diogelwch Ffyrdd

Postiwyd

Partneriaid diogelwch ffyrdd yng Ngogledd Cymru yn lledaenu'r gair ar yrru'n ddiogel ar draws y rhanbarth fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffyrdd (17 - 21 Tachwedd).

 

Mae Tîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno gyda chynghorau lleol a Heddlu Gogledd Cymru i roi cyngor ar yrru yn ystod y gaeaf chadw'n ddiogel  y tu mewn i'r car, yn ogystal â darparu cyngor i gerddwyr a seiclwyr i gefnogi'r fenter gydlynol genedlaethol gan yr elusen diogelwch ffyrdd 'Brake'.

 

Y thema eleni ydy 'Edrychwch ar ôl eich gilydd', ac mae Brake wedi bod yn amlygu'r modd y gall ymddwyn yn hunanol ar y ffordd arwain at ddigwyddiad  trasig - mae'n galw ar yrwyr i amddiffyn pobl ar droed neu ar feiciau ac arafu i 20 mewn cymunedau, edrych yn hirach a gyrru'n araf ar gyffyrdd a throadau, a rhoi digon o le i bobl.  Maent hefyd yn galw ar i bawb roi diogelwch yn gyntaf ac ystyried ei gilydd, annog pobl ar droed ac ar feiciau i beidio â mentro, a gwneud yn siwr eu bod yn weledol.  

Roedd staff wedi paratoi ar gyfer y fenter dros y penwythnos, a buont yn siarad gyda phobl o bob cwr o'r rhanbarth a oedd wedi dod i wylio Rali GB Cymru.

 

Anogir gyrwyr i gofio'r pump angheuol - Peidio ag yfed a gyrru, Arafu, Peidio bod yn ddiofal, Gwisgo'ch gwregys diogelwch a Diffodd eich ffôn symudol.

 

Mae'r cyn-bencampwr rali Prydeinig, Gwyndaf Evans yn cefnogi'r Pump Angheuol:

"Yn amlwg mae gyrru o ddydd i ddydd yn gwbl wahanol i'r wefr o yrru ar ffyrdd caeedig yn ystod rali lle gallwn gynyddu ein cyflymder yn ddiogel -  pan fyddwch yn gyrru, cofiwch mai'r Pump Angheuol yw prif achosion gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd yng Nghymru.  Gallwch helpu drwy yrru'n gyfrifol a lledaenu'r neges ar ddiogelwch ffyrdd  - peidiwch byth â mentro, fe allai'r canlyniadau fod yn angheuol."

Fe fydd staff hefyd yn ymweld ag Ysgol Gynradd  Bryn Hedydd yn y Rhyl yr wythnos hon i ddarparu cyngor diogelwch ffyrdd fel rhan o'r fenter.

 

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Gyda'r gaeaf ar ein gwarthaf, y mae hyd yn oed mwy o resymau dros gymryd pwyll ar y ffordd.  Rydym yn annog cerddwyr a seiclwyr i wisgo dillad llachar ac adlewyrchol  er mwyn gwneud yn siwr y gall gyrwyr eu gweld yn y tywyllwch, ac rydym yn annog gyrwyr ifanc i lanhau sgriniau gwynt a ffenestri bob bore."

 

"Mae Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffyrdd yn gyfle gwych i bawb atgoffa'u hunain o'r prif bwyntiau diogelwch.  Rydym am i bobl fod yn barod ar gyfer y gaeaf. Mae'n bwysig bod gyrwyr yn meddwl am eu diogelwch hwy eu hunain ac eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen