Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dod o hyd i gorff mewn ty yng Ngwynedd

Postiwyd

Galwyd y gwasanaethau brys i dy ym Mhennal, Gwynedd am 10:15am, ddydd Sul 16 Tachwedd yn dilyn dod o hyd i gorff dyn 26 oed.

 

Cadarnhawyd bod tân wedi digwydd yn yr eiddo cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd. Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

 

Meddai'r Prif Arolygydd Richie Green: "Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i amgylchiadau'r digwyddiad trasig hwn. Rwy'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth, a allai fod o gymorth i ni, i'n ffonio ni ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod R180626."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen