Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Tanau Trydanol

Postiwyd

 

 

Mae heddiw'n nodi cychwyn Wythnos Diogelwch Tanau Trydanol (10fed-16eg Tachwedd) - ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn anfon rhybudd i drigolion ynglyn â pheryglon tanau trydanol, gan mai dyma un o brif achosion tanau yn y cartref yn y wlad yma.

 

I gyd-fynd â'r ymgyrch genedlaethol, fe fydd staff y Gwasanaeth yn ymweld â siopau ar draws y Gogledd i siarad gyda thrigolion am sut i gadw'n ddiogel rhag tanau trydanol ac i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon.

 

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn cael ein galw i tua 470 o danau damweiniol yn y cartref bob blwyddyn ac mae trydan neu gyfarpar trydanol yn gyfrifol am tua 300 o'r tanau hyn.

 

"Mae tanau trydanol yn creu risg gwirioneddol i berchnogion tai, ac yn aml iawn maent yn achosi difrod sylweddol i eiddo ac weithiau gallant arwain at ganlyniadau trasig iawn. Er bod y tân a ddigwyddodd yn Llanrwst yn ddiweddar, lle bu farw dau o bobl, yn dal i fod yn nwylo'r Crwner, sefydlwyd bod y tân hwnnw, yn ôl pob tebyg, wedi cychwyn mewn peiriant sychu dillad.  

 

"Y llynedd, roedd 112 o danau o'r math yma wedi cynnau o ganlyniadau i nam trydanol - ond mae'r rhan fwyaf o danau trydanol yn digwydd oherwydd nad ydy'r eitemau trydanol yn cael eu defnyddio yn y modd cywir.  Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio cyfarpar trydan yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'ch bod yn archwilio eitemau trydan a lidiau rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio.  Mae cymaint o drigolion yn defnyddio eitemau sydd yn hen neu'n beryglus ac yn gorlwytho socedi, sydd yn creu risg gwirioneddol o dân angheuol.

 

"Gall storio eitemau hylosg mewn cypyrddau lle cedwir mesuryddion trydan neu focsys ffiwsiau hefyd gynyddu'r risg o dân difrifol yn y  cartref.  Drwy storio eitemau yn agos i gyfarpar trydanol gallwch gynyddu'r risg y byddant yn cael eu difrodi neu'n gorboethi  ac yna'n helpu lledaeniad y tân.

 

"Dyma pam ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhannu ein negeson am ddiogelwch trydanol ymhlith trigolion ac yn hybu Wythnos Diogelwch Tanau Trydanol.  Byddwn yn gofyn i siopwyr gwblhau cwis byr ar ddiogelwch trydan er mwyn cael lîd estyn defnyddiol  yn rhad ac am ddim ynghyd â chyngor ar sut i ddefnyddio cyfarpar trydan yn ddiogel.

 

"Gosod larymau mwg yw'r unig ffordd o amddiffyn eich cartref rhag tân - ac eto mae 20% o'r tanau yr ydym ni'n cael ein galw atynt yn digwydd mewn cartrefi heb larymau mwg gweithredol o gwbl.  

 

"Gall tân trydanol ddigwydd i unrhyw un, yn unrhyw le ac felly ein cyngor yw byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel - mae'r wythnos hon yn rhoi cyfle da i chi wneud yn siwr bod gennych larymau mwg gweithredol yn y cartref a gwneud ymdrech i gymryd pwyll arbennig gydag eitemau trydan.

 

"Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell 'ampau' ar ein gwefan a'n tudalen Facebook - bydd yn rhoi gwybod i chi os ydych yn gorlwytho socedi a'ch helpu i gadw'n ddiogel rhag tân trydanol."

 

Am gyngor ar ddiogelwch trydan ac i roi cynnig ar ein cyfrifiannell 'ampau' ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk  neu www.facebook.com/Northwalesfireservice

 

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim, lle byddwn yn gosod larymau mwg newydd am ddim, galwch ein rhif rhadffôn 24 awr 0800 1691243, anfonwch e-bost i  dtc@nwales-fireservice.org.uk , ewch i www.gwastan-gogymru.org.uk  neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda'r gair HFSC.

 

 

Digwyddiadau'r wythnos hon:

Dydd Llun, 10fed Tachwedd - Asda Bae Cinmel (10am - 3pm)

Dydd Mawrth, 11eg Tachwedd- Asda Porthmadog (10am - 3pm), Charlies y Fferi Isaf (11am - 1pm)

Dydd Mercher, 12fed Tachwedd- Siop Co-op Dolgellau (10am -3pm)

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen