Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân difrifol yn Llanrwst - Diweddariad

Postiwyd

Cadarnhawyd bod y gŵr 39 mlwydd oed a gafodd ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y tân yn Llanrwst y bore yma (Dydd Gwener 10fed Hydref) wedi marw.

Bu farw gŵr 19 mlwydd oed yn dilyn y digwyddiad yn ogystal.

Galwyd y gwasanaethau brys i'r fflat llawr cyntaf yn Sgwâr Ancaster, Llanrwst am 06.03 o'r gloch.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill i sefydlu achos y tân - ni chredir ar hyn o bryd bod y digwyddiad yn un amheus.

Meddai'r Prif Swyddog Tân Simon Smith: "Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu'r rhai a fu farw yn ystod digwyddiad hwn.

"Mae'r digwyddiad yn ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref ac ymarfer cynlluniau dianc o dân.

"Er gwaethaf llwyddiant ein gwaith ataliol, mae'r digwyddiad hwn yn ein hatgoffa y gall tân ddigwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg ac nid ydym byth yn gwybod i ble yng Ngogledd Cymru y caiff ein criwiau tân hyfforddedig eu galw nesaf.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ganmol y criw lleol yn Llanrwst a fynychodd y digwyddiad i ddod â'r tân dan reolaeth."

Bydd staff y Gwasanaeth Tân ac Achub yn aros yn ardal Llanrwst dros y penwythnos i hybu archwiliadau diogelwch  tân yn y cartref rhad ac am ddim a hybu pwysigrwydd larymau mwg ymhlith trigolion.

Y mae modd i drigolion yng Ngogledd Cymru gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref drwy ffonio 0800 169 1243 neu fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen