Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Llanfachraeth

Postiwyd

 

 

Mae bwthyn yn Llanfachraeth, ger Caergybi wedi cael ei ddinistrio gan dân.

 

Cafodd criwiau eu galw i'r eiddo am 09.24 o'r gloch y bore yma, Dydd Llun 6ed Ionawr.

 

Credir bod y tân wedi cychwyn yn y to a'i fod wedi lledaenu drwy'r eiddo wrth i'r fflamau gael eu lledaenu gan y gwynt.  Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bibellau dŵr ac offer anadlu i ddelio gyda'r tân.

 

Llwyddodd perchennog y tŷ i ddianc yn ddianaf ar ôl glywed sŵn uchel ac yr oedd wedi mynd allan o'r eiddo cyn galw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Y mae archwiliadau cynnar yn dangos bod y tân wedi ei achosi gan fellten, ond mae archwiliad llawn bellach ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen