Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Dychwelyd i wasanaeth arferol’ wedi i ddiffoddwyr tân fynd ar streic

Postiwyd

 

Daeth y cyfnod dwy awr o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 8.30am o'r gloch y bore yma (Dydd Gwener 3ydd Ionawr).

 

Dyma oedd y streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog TânSimon Smithei fod yn hapus gyda'r modd y llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdopi yn ystod y streic.

 

"Fel y disgwylid, fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni. Fodd bynnag, fe weithiodd ein trefniadau rheoli parhad busnes yn effeithiol ac wedi'r streic  fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer yn gyflym a diogel.

 

"Unwaith eto, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch - ni chawsom ein galw i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y ddwy awr.

 

"Er bod y streic yma drosodd, nid yw eto'n glir a fydd diffoddwyr tân yn trefnu streiciau pellach felly hoffwn atgoffa pobl ei bod yn hynod bwysig iddynt gymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd yn enwedig dros y Nadolig."

 

Mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen