Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Elusennau’n derbyn elw’r arddangosfa tân gwyllt

Postiwyd

 

Yn ddiweddar daeth elusennau lleol at ei gilydd yng Ngorsaf Dân Glannau Dyfrdwy i dderbyn dros £4000.00, y swm a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt flynyddol ar y 5ed o Dachwedd.

Fe dderbyniodd yr elusennau canlynol gyfran o'r arian:

Babygrow Appeal, North Wales Crusaders, Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned, North Wales Superkids, D.A.F.F.O.D.I.L.S., Dreigiau Glannau Dyfrdwy, Hannah Hughes (Cefnogaeth Cancr Macmillan), Eye 2 Eye, Cymdeithas Tenantiaid Manley Court, Clwb Dydd Gwener Plymouth Street, Cymdeithas Gymunedol Shotton, Band Arian Glannau Dyfrdwy, Hosbis y Bugail Da, Gofal Cancr Clattrbridge, Brownis 1af Shotton, Clwb dros 50 Ewlo, Cymdeithas Trigolion y Fferi Isaf, Gofal Arthritis Sir y Fflint, Quay Coronets, Cymdeithas Plant Byddar Sir y Fflint, Trais Domestig, Canolfan Melrose, Radio Deeside, Ambiwlans St John, Cancer Research Uk - Pwyllgor Glannau Dyfrdwy, PentrePeryglon, Grŵp Brodwaith Shotton, Cymdeithas Gymunedol Sealand ac Elusen y Diffoddwyr Tân.

 

Roedd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bresennol i gyflwyno'r sieciau i gynrychiolwyr o'r gwahanol elusennau.

 

Meddai Nigel Sephton, diffoddwr tân o Lannau Dyfrdwy ac un o drefnwyr y noson:

 

"Daeth llawer o bobl i gefnogi'r noson eleni a hoffwn ddiolch i bawb a'm cefnogodd a'i gwneud hi'n bosib i ni gyfrannu arian i'r elusennau haeddiannol hyn.

 

"Roedd yn bleser gweld yr elusennau'n derbyn y sieciau gan Simon Smith, ein Prif Swyddog Tân. Hoffwn ddiolch i Fand Arian Glannau Dyfrdwy am chwarae yn ystod y seremoni, ac i'r holl gynrychiolwyr am ddod i dderbyn y rhoddion.

 

"Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. I gofrestru, galwch 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk "

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen