Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dychwelyd i wasanaeth arferol wedi i ddiffoddwyr tân fynd ar streic Nos Galan

Postiwyd

Daeth y cyfnod o weithredu diwydiannol chwech awr gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am hanner awr wedi hanner nos.

Dyma oedd y streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.

Dywedodd y Prif Swyddog TânSimon Smithei fod yn hapus gyda'r modd y llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdopi yn ystod y streic.

"Fel y disgwylid, fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni. Fodd bynnag, fe weithiodd ein trefniadau rheoli parhad busnes yn effeithiol ac wedi'r streic  fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer yn gyflym a diogel.

"Ni chawsom ein galw i unrhyw ddigwyddiad yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol chwe awr - a hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch."

"Er bod y streic yma drosodd, hoffwn atgoffa pobl ei bod yn hynod bwysig iddynt gymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd - bydd diffoddwyr tan yn mynd ar streic eto Ddydd Gwener 3ydd Ionawr rhwng 630am a 830am."

"Dymunaf Flwyddyn Newydd Dda a diogel i bawb."

Y mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen