Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Seremoni Wobrwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Fe gyflwynodd Arglwydd Raglaw Clwyd, Mr Harry George Fetherstonehough OBE, Fedalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw i staff gweithredol yn ystod seremoni Wobrwyo a  gynhaliwyd yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl Nos Lun 16eg Medi.

Mae'r Medalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yn cael eu cyflwyno i ddiffoddwyr tân gan un o Gynrychiolwyr Ei Mawrhydi i gydnabod 20 mlynedd o wasanaeth.

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân : "Mae derbyn medal yn achlysur pwysig iawn i bob diffoddwr tân ac mae'r seremoni hwn yn cynrychioli dros 100 mlynedd o ymroddiad ac ymrwymiad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dylai pob un ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi derbyn y Fedal am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw neu Wobr am Wasanaeth Teyrngar. "

Fe gyflwynodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, wobrau  am Wasanaeth Teyrngar i staff cefnogol sydd wedi cwblhau 20 mlynedd o wasanaeth.

Fe gyflwynwyd y gwobrau cymunedol yn ystod y seremoni yn ogystal i gydnabod aelodau staff ac aelodau'r gymuned sydd wedi gweithio'n galed i wella diogelwch cymunedol yng Ngogledd Cymru.

 

 

 

Medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw'r Gwasanaeth Tân

 

KEVIN DAVID ROBERTS

Fe ymunodd Kevin â Gwasanaeth Tân Clwyd ym 1989 fel diffoddwr tân.  

 

Fe adawodd Kevin y gwasanaeth tân flwyddyn yn ddiweddarach i wasanaethu gyda'r Fyddin Brydeinig.  Fe wasanaethodd gyda'r fyddin am 4 blynedd cyn dychwelyd i'r gwasanaeth tân ym 1994.

 

Cafodd ei ddyrchafu'n Ddiffoddwr Tân Arweiniol ym 1998, ac yn Is-Swyddog Diogelwch Tân yn 2000.

 

Ar gael ei ddyrchafu fe ymunodd gyda Brigâd Dân Caint yn 2001 cyn dod yn ôl yn 2003 fel Rheolwr Gorsaf ym Mangor.  

 

Cafodd Kevin ei ddyrchafu'n Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Sir y Fflint yn 2006 a Phennaeth yr adran Hyfforddiant a Datblygu yn 2001.

 

Y mae Kevin yn gweithio fel Uwch Reolwr Gweithrediadau ar hyn o bryd.

 

 

 

GWYN JONES

 

Fe gychwynnodd Gwyn ar ei yrfa fel diffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Caernarfon ym 1993. Roedd wedi ei leoli yng Nglannau Dyfrdwy ym 1999, cyn symud yn ol i Gaernarfon yn 2002.

 

Cafodd Gwyn ei ddyrchafu yn Rheolwr Gwylfa yn yr Adran Gweithrediadau yn 2006.  Wedi hynny cafodd ei ddyrchafu'n Rheolwr Gweithrediadau'r Sir dros Dde Gwynedd yn  2007.

 

Ar hyn o bryd mae Gwyn  yn Rheolwr Diogelwch Cymunedol dros Gonwy a Sir Ddinbych.

 

 

BLYTHE EDMUND ROBERTS

 

Fe ymunodd Blythe â Gwasanaeth Tân Clwyd yn 1992 ac ar ôl cael ei ddyrchafu'n Rheolwr Criw dros dro yn 2007, ac yna'n Rheolwr Gwylfa.

 

Y mae Blythe yn Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân y Rhyl ar hyn o bryd.

 

 

 

SIMON CHRISTOPHER BROMLEY

 

Fe ymunodd Simon gyda Gwasanaeth Tân Gwynedd Fire ym 1993 fel diffoddwr tân yng Nghaergybi cyn dod yn ddiffoddwr tân arweiniol ym 1997 ac Is-swyddog yn 2000.

 

Y mae Simon yn Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân Caergybi ar hyn o bryd.

 

GWYN WILLIAMS

 

Fe ymunodd Gwyn gyda Gwasanaeth Tân Gwynedd ym 1993 fel diffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Porthaethwy.

 

Yn 2006 roedd Gwyn yn gweithio fel Ymarferwr Diogelwch Tân Cymunedol.

 

Cafodd Gwyn ei ddyrchafu'n Rheolwr Criw yn 2012 ac y mae wedi ei leoli yng Ngorsaf Dân Porthaethwy ar hyn o bryd.

 

 

 

STEPHEN THOMAS

 

Fe gychwynnodd Stephen ar ei yrfa gyda Gwasanaeth Tân Gwynedd yn 1993 fel diffodder tân yng Ngorsaf Dân Amlwch.

 

Y mae Stephen yn parhau i wasanaethu ei gymuned yng Ngorsaf Dân Amlwch.

 

 

 

PAUL CARPENTER

 

Cychwynnodd  Paul ar ei yrfa gyda Gwasanaeth Tân Gwynedd yn 1993 yng Ngorsaf Dân  Aberdyfi. Ar ôl symud o'r ardal aeth i weithio i Orsaf Dân Dolgellau yn 2006.

 

Treuliodd Paul gyfnod yn gweithio fel Rheolwr Criw dros dro ac y mae'n ddiffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Dolgellau ar hyn o bryd.

 

 

 

Y WOBR AM WASANAETH TEYRNGAR

 

DAWN LOUISE FROST

 

Fe gychwynnodd Dawn ar ei gyfra gyda Gwasanaeth Tân Clwyd fel teipyddes rhan amser ym mis Awst 1993, cyn dod yn Weithredydd/Clerc Prosesu Geiriau llawn amser yn fuan wedi hynny.

 

Ym 1999, symudodd Dawn i'r Adran Gyllid fel Cynorthwyydd Cyllid a daeth yn Swyddog Cyllid yn 2008.

 

Ar hyn o bryd mae Dawn yn Swyddog Cyllid yn ein Pencadlys yn Llanelwy.

 

Gwobrau Cymunedol

 

Cyfraniad Arbennig gan Unigolyn

 

Y mae'r wobr yma'n cydnabod aelod staff sydd wedi gweithio tu hwnt i'w dyletswyddau arferol.

 

Mae Julian Blackford yn rheolwr criw yng Ngorsaf Dân Bae Colwyn.

 

Ddydd Sadwrn 21ain Hydref  2012 roedd Julian mewn priodas yn Ilkley, Swydd Efrog pan gwympodd gŵr oedrannus.

 

Fe aeth Julian at y gŵr ar unwaith gan roi cyngor cymorth cyntaf i'r rhai o'i gwmpas.  Nid oedd y gŵr yn anadlu ac roedd yn ymddangos fel petai'n anymwybodol.

 

Cychwynnodd Julian roi CPR i'r gŵr a pharhaodd am bedwar munud. Yna fe baratôdd y diffibriliwr a oedd gerllaw yn barod i'w ddefnyddio.

 

Oherwydd y CPR a'r diffibriliwr dechreuodd y gŵr ymateb.        

 

Ar ôl llwyddo i adfer y gŵr,  trosglwyddodd Julian ei ofal o'r gŵr i'r Ymatebwr Cyntaf a oedd wedi cyrraedd  y safle a'r criw Ambiwlans yn fuan wedi hynny.

 

Mae llwyddo i adfer rhywun gan ddefnyddio CPR yn ddigwyddiad prin iawn ond mae'n wir dweud bod Julian wedi achub bywyd y gŵr.  

 

Y Wobr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

 

Mae'r Wobr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cydnabod gwaith asiantaethau partner neu gyrff cyhoeddus sydd yn gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eu hymgais i rannu negeseuon diogelwch yn y  gymuned.

 

Mae'r wobr eleni yn cael ei rhannu gan ddau sefydliad.

 

Mae adran Theatr, Teledu a Pherfformio Prifysgol Glyndŵr wedi gweithio gyda'r Gwasanaeth ar ddau brosiect eleni.  Yn 2012 fe weithiodd myfyrwyr ar fideos diogelwch tân ac yn 2013  fe weithiodd y ddau sefydliad gyda'i gilydd ar y prosiect 'Crossfire', lle bu myfyrwyr Glyndŵr yn cyflwyno sioe arloesol i ddisgyblion o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ar hyd a lled Wrecsam.

 

Y mae  Elen Nefydd a Huw Garmon o Brifysgol Glyndŵr wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi bod yn allweddol wrth yrru'r prosiect hyn yn eu blaen.

 

Mae'r ail wobr yn cael ei chyflwyno  i Gartrefi Conwy.

 

Cafodd partneriaeth ei sefydlu rhwng Cartrefi Conwy a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2012.

 

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi datblygu, ac yn parhau i gynnal perthynas waith glos gyda staff Cartrefi Conwy.

 

Drwy'r partneriaethau hyn rydym wedi datblygu nifer o fentrau gwahanol.

 

 

Mae staff y ddau sefydliad wedi cefnogi'r bartneriaeth, ac y mae pawb yn gweithio tuag at yr un gôl, sef cadw tenantiaid Cartrefi Conwy yn ddiogel yn eu cartrefi.

 

Yr hyn sydd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y bartneriaeth yw rhannu data a chyfeiriadau, gyda phob tenant newydd yn cael eu cofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref.

 

At hyn , mae  Cartrefi Conwy wedi cytuno i fonitro proffil eu tenantiaid a gwneud yn siŵr bod y rhai mwyaf bregus yn cael eu cyfeirio at Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel y gallwn ymyrryd ac anfon adnoddau ataliol i'r cartref.

 

Hyd yn hyn, mae  299 o archwiliadau diogelwch tân yn y cartref wedi cael eu cwblhau yn eiddo  Cartrefi Conwy.

 

Y mae Cartrefi Conwy wedi cyhoeddi bod nifer y tanau yn eu cartrefi wedi gostwng 38% yn ystof saith mis cyntaf y flwyddyn hon, o gymharu â llynedd.  Dyma ddangos felly bod ymrwymiad Cartrefi Conwy i gadw tenantiaid yn ddiogel yn eu cartrefi wedi bod yn llwyddiannus.

 

Gwobr 3 - Cyfraniad arbennig i'r Gymraeg

 

Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i'r Gymraeg.

 

Y mae Ceri Hughes ac Alun Guest Rowlands yn gweithio yn swyddfa Gwynedd ac mae'r ddau'n frwdfrydig iawn dros y Gymraeg.

 

Y maent wedi bod yn rhan o'r Cynllun Hyrwyddwyr Iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf ac maent yn ymdrechu i hybu'r Gymraeg yn y gweithle.

 

Maent wedi cefnogi cydweithwyr i basio profion Cymraeg Lefel 1 a 2.

 

Y maent hefyd yn siarad Cymraeg yn y gweithle bob dydd, fel bod pobl ddi-gymraeg yn cael cyfle i glywed ac ymarfer y Gymraeg mewn amgylchedd cefnogol.

 

Eleni, bu i Ceri ac Alun fynd tu hwnt i'w dyletswyddau arferol fel Hyrwyddwr drwy gytuno i serennu yn CD dysgu Cymraeg diweddaraf y Gwasanaeth.  Heb eu help a'u cydweithrediad nwy ni fyddai wedi bod yn bosib cynhyrchu'r CD  heb orfod gwario yn ychwanegol ar gostau cynhyrchu.

Gwobr 4 - Cyflogwr y Flwyddyn

 

Mae'r wobr Cyfloger y Flwyddyn yn cydnabod cyflogwr lleol sydd yn rhyddhau staff yn rheolaidd er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau diffodd tanau yn y gymuned. Mae'r cyflogwr hyn yn hanfodol o ran helpu i wneud yn siŵr bod peirannau tân ar gael ar hyd a lled y Gogledd.  

 

Y mae Danline International wedi eu lleoli yn Llanrwst. Mae'r cwmni yn cynhyrchu brwsys ar gyfer y maes diwydiannol a brwsys ar gyfer y ffyrdd.  

 

Mae'r cwmni wedi rhyddhau un cyfloger yn ystod y dydd ers dros 35 o flynyddoedd.

 

Bu i Malcolm Spencer ddarparu gwasanaeth am dros 25 o flynyddoedd ac yn fwy diweddar maeGavin Joneswedi darparu gwasanaeth yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

 

Dros y 35 mlynedd ddiwethaf mae Danline International wedi bod yn hapus i ryddhau Gavin a Malcolm, fel y gallant ymateb i ddigwyddiadau neu gwblhau dyletswyddau yn yr orsaf, yn aml ar fyr rybudd.

 

 

 

Gwobr 5 - Dysgwr y Flwyddyn

 

Cyflwynir y wobr Dysgwr y Flwyddyn i unigolyn sydd wedi dangos ymroddiad a dyfalbarhad tuag at ddysgu Cymraeg dros y 12 mis diwethaf.

 

Eleni, cyflwynir y wobr i ddau unigolyn o'r Pencadlys.

 

Y maeAnn Pierceyn gweithio yn yr Adran Gyllid a Sarah Anderson yn gweithio yn yr Adran Gyllid a'r Adran Ystadau.  Y mae'r ddwy'n frwdfrydig iawn dros y Gymraeg.

 

Y mae Ann a Sarah wedi gwneud ymdrech i siarad Cymraeg ar ôl cwblhau'r cwrs Cymraeg Lefel 3 yn ddiweddarach eleni ac y maent nawr yn bwriadu symud ymlaen i'r cwrs Lefel 4.

 

Y mae'r ddwy'n hapus i sgwrsio yn Gymraeg gyda siaradwyr Cymraeg ac maent yn ymarfer gyda'i  gilydd.

 

 

 

Gwobr 6 - Y Gymuned Fwyaf Diogel

 

Cyflwynir y wobr Cymuned Fwyaf Diogel i unigolyn sydd wedi dangos ymroddiad aruthrol i Wasanaeth Tân ac Achub Goledd Cymru yn ystod ei yrfa fel aelod o'r system dyletswydd rhan amser.

 

Eleni mae tri o bobl yn derbyn y wobr.

 

Y cyntaf yw John Paul Medley o Abergele.

 

Fe ymunodd Paul gyda'r Gwasanaeth ym mis Awst 1979 ac y mae wedi gwasanaethu yng Ngorsaf Dân Abergele fyth ers hynny.  Y mae bellach yn Rheolwr Criw yn Abergele.

 

Yr ail yw John Fredrick Rees Davies o Aberdyfi.

 

Fe ymunodd John â'r Gwasanaeth ym mis Mawrth 1980 ac y mae wedi gwasanaethu yng Ngorsaf Dân Aberdyfi fyth ers hynny. Y mae bellach yn Rheolwr Gwylfa yn Aberdyfi.

 

Mae'r trydydd, Robert Gareth Jones, hefyd o Aberdyfi.

 

Fe ymunodd Gareth Jones â'r Gwasanaeth ym mis Awst  1980 ac y mae wedi gwasanaethu yng Ngorsaf Dân Aberdyfi fyth ers hynny. Y mae bellach yn Rheolwr Criw yn Aberdyfi.

 

 

 

Gwobr 7 - Cyfraniad Aruthrol i'r Gymraeg gan Adran.

 

Gwobr ola'r noson yw'r wobr 'Ar dân dros y Gymraeg.  Mae'r wobr yn cydnabod adran, gorsaf neu dîm sydd wedi dangos ymrwymiad i'r Gymraeg.

 

Y mae'r wylfa las yng Nghaergybi wedi bod yn rhan o'r cynllun Hyrwyddwyr iaith Gymraeg ers y cychwyn cyntaf.  Fe wasanaethodd Gwyn Williams fel Hyrwyddwyr am 3 blynedd cyn i Gareth Williams gymryd yr awenau ganddo eleni.  Mae llawer o waith hyrwyddo yn mynd ymlaen yng Nghaergybi ac rwyf wedi synnu bod cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad yno.

 

Y mae'r rhan fwyaf o'r Wylfa Las yn siarad Cymraeg yn rhugl a  llwyddodd un dysgwr i gyrraedd lefel 4 eleni gyda help yr wylfa a'r Hyrwyddwr Iaith Gymraeg.  Gyda help yr Hyrwyddwr iaith Gymraeg mae'r gwylfeydd eraill ar yr orsaf hefyd yn gweithio tuag at gynyddu eu sgiliau iaith.  Ond yn anad dim, mae gwaith da'r Hyrwyddwr a dylanwad ac arweiniad yr Wylfa wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar weddill y criw yng Nghaergybi.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen