Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu pwysigrwydd larymau mwg wedi tân Llangwm

Postiwyd

Y mae Swyddogion Tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg ar ôl iddynt rybuddio cymydog o dân mewn eiddo yn Llangwm, Conwy'r prynhawn yma.

Cafodd criwiau o'r Bala, Corwen, Llanrwst, Rhuthun a Llangollen eu galw i'r digwyddiad am 11.23 o'r gloch y bore yma (Dydd Iau 12fed Medi).

Fe ddefnyddiodd diffoddwyr tân offer anadlu a phibellau dŵr i ddelio gyda'r tân yn y gofod rhwng y to.  Bu'n rhaid iddynt dynnu teils oddi ar y to er mwyn mynd at y tân.  Credir bod y tân wedi cychwyn ar y lawr cyntaf.

Fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i'r tŷ ac y mae ymchwiliad ar y gweill.

Doedd neb gartref ar adeg y tân ond fe seiniwyd rhybudd gan gymydog a oedd wedi clywed y  larymau mwg yn seinio.

Meddai Mike Hough o Wasanaeth Tân ac Achub: "Mae'r digwyddiad hwn yn dangos yn glir pa mor bwysig yw larymau mwg - bu i'r larwm rybuddio'r cymydog a alwodd y gwasanaeth tân ac achub.  Oni bai bod y tân wedi cael ei ddarganfod yn gynnar, mae'n debygol y byddai'r difrod wedi bod yn llawer gwaeth, yn enwedig gan ei fod mewn lleoliad gwledig.

" Mae gofyn i drigolion sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig fod yn fwy gwyliadwrus fyth mewn perthynas â diogelwch tân a gwneud yn siŵr bod ganddynt larymau mwg a chynllun dianc i dân.

"Ar ôl darganfod tân, mae'n hynod bwysig mewn ardaloedd gwledig  eich bod yn ymateb ar unwaith -ewch allan, arhoswch allan a galwch 999 ar unwaith.

"Y mae mynediad at gyflenwadau dŵr yn brin iawn mewn ardaloedd gwledig - fel yn achos y tân yma heddiw.  Fe gyrhaeddodd y criwiau'r safle mewn da bryd gan weithio'n dda i ddod â'r tân dan reolaeth  - ond fe achoswyd difrod sylweddol yn y tŷ.

"Y mae hefyd yn hanfodol bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr ei bod yn hawdd i'r gwasanaethau brys ddod o hyd i'ch cartref - gwnewch yn siŵr bod gwrych a dail yn cael eu trimio'n rheolaidd fel bod enw'r tŷ'n weladwy.

"Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim lle bydd aeloda o'r gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc ac, os oes angen, yn gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan am ddim. I gofrestru galwch 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk. Gallwch hefyd ddefnyddio'ch ffôn symudol i gofrestru drwy fynd i www.larwmmwgamddim.co.uk ."

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen