Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cael golchi eich car a chodi arian at achos da!

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân y Gogledd yn paratoi i dorchi eu llewys i gymryd rhan yn yr Olchfa Geir Genedlaethol yr wythnos hon, er mwyn codi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn eitem sefydlog ar galendr y gwasanaeth tân ac achub. Dyma un o brif ddigwyddiadau codi arian yr elusen. Gwahoddir gyrwyr i fynd draw i'w gorsaf leol i gael golchi eu ceir am gyfraniad i Elusen y Diffoddwyr Tân.  Mae'r Elusen yn darparu gwasanaethau blaenllaw sydd yn gwella ansawdd bywyd personél y gwasanaeth tân a phersonél sydd wedi ymddeol, ynghyd â'u teuluoedd.

Bydd gorsafoedd ar hyd a lled y rhanbarth yn cymryd rhan yn y digwyddiad a fydd yn cymryd lle ar Sadyrnau drwy gydol y mis.

Meddai Paul Claydon, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: " Mae'r arian a godir drwy fetrau cenedlaethol fel hyn yn hwb mawr i Elusen y Diffoddwyr Tân.  Yn ogystal â digwyddiad poblogaidd a llawn hwyl i'r elusen, mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn rhoi cyfle i'n diffoddwyr tân rhannu cynghorion diogelwch pwysig gyda'r gymuned leol.

"Rydym yn falch bod cymaint o'n gorsafoedd yn cymryd rhan ac rydym yn awyddus i annog pobl leol i gefnogi'r digwyddiad hwn.  Bydd eich cyfraniad yn helpu miloedd o ddynion, merched a phlant yn y gymuned tân ac achub pan fyddant mewn angen."

Mae'r gorsafoedd canlynol yn cymryd rhan yr olchfa geir:

Dydd Sadwrn 14eg Medi

Wrecsam 10am- 3pm

Bae Colwyn -  10am - 3pm

Pwllheli - 9.30am - 1pm

Cerrigydrudion -10am - 3pm

Nefyn  - 10am- 1pm Maes Parcio Ffordd Dewi Sant

Dydd Sadwrn 21ain Medi

Llangefni     - 10.30am - 3pm

Llandudno  - 10am - 5pm

Porthaethwy -11am - 2pm

Benllech -    9am

Glannau Dyfrdwy 10am - 4pm

Llangollen

Dydd Sadwrn 28ain  Medi

Biwmares -         11am - 2pm

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen