Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhoi busnesau lleol ar ben ffordd ynglŷn â diogelwch tân

Postiwyd

 

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog busnesau sydd gan gwestiynau neu ymholiadau ynglŷn â diogelwch tân i gysylltu â hwy wedi ymateb hynod bositif gan y gymuned fusnes leol a oedd yn rhan o'r prosiect 'Ystadau Rhagorol'.  

Cefnogwyd y Fenter Ystadau Rhagorol gan Fforymau Iechyd a Diogelwch Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, a'i rhoi ar waith drwy Brosiect Parciau Busnes Strategol Gogledd Ddwyrain Cymru.  Roedd yn cynnwys dros 90 o gwmnïau o ystadau diwydiannol a fynychodd nifer o gyflwyniadau cryno i drafod pynciau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhan strategol o'r rhaglen ac fe gyflwynom nifer o gyflwyniadau i gwmnïau er mwyn amlygu'r pwysigrwydd cydymffurfio â'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân), cwblhau asesiadau risg, a rhannu gwybodaeth am y dogfennau cymorth sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan y Gwasanaeth.  

Roedd nifer o asiantaethau a phartneriaid proffil uchel yn rhan o'r prosiect, megis y Gweithredwr Iechyd a Diogelwch, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Iâl, Prifysgol Glyndŵr a'r Prosiect Parciau Busnes Strategol.

Y mae'r Rheolwr Addysg i Fusnesau, Richard Evans, yn egluro: "Mae'n rhaid i ni ddiolch i'r tîm Ystadau Rhagorol a'n hasiantaethau partner am ein gwahodd i hybu pwysigrwydd cydymffurfio â'r Gorchymyn Diogelwch Tân ymysg busnesau bach a mawr, a delio gydag unrhyw bryderon neu anawsterau y maent yn eu cael.

"Fe ddaethom ar draws nifer o fusnesau nad oedd wedi cwblhau asesiadau risgiau diogelwch tân a fe'i cyfeiriwyd at y canllawiau a'r ddogfennaeth berthnasol i'w galluogi i  gydymffurfio â'r ddeddf. Y mae addysgu a hyrwyddo wedi ei gynnwys yn rhan gyntaf y ddeddfwriaeth diogelwch tân.  Y mae'r fenter hon wedi ein galluogi i gysylltu â nifer o fusnesau yn ogystal â'n galluogi i gryfhau'r cyswllt rhyngom ni a'n hasiantaethau partner hyd yn oed ymhellach."

Dylai unrhyw un sydd yn chwilio am gyngor diogelwch tân gysylltu â'r Tîm Addysg i Fusnesau ar 01745 535250 neu addysgifusnesau@gwastan-gogcymru.org.uk.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y fenter Ystadau Rhagorol ewch i wefan Ystadau Rhagorol HSE Cymru

www.hse.gov.uk/welsh/news/estates-excellence.htm

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen