Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd ieuenctid Sir y Fflint

Postiwyd

 

Fe gymrodd criw o bobl ifanc o Sir y Fflint ran yng Nghwrs Y Ffenics II yn ddiweddar. Dyma fenter  arloesol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae prosiect Y Ffenics wedi ei ddylunio'n arbennig i helpu pobl ifanc ailgyfeirio eu bywydau. Drwy gymryd mantais o'u brwdfrydedd i gwblhau gweithgareddau gwerth chweil  a chynhyrchiol y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i ddod yn rhan o'r gymuned ynghyd â'u cyfoedion.

Cynhaliwyd y cwrs yng ngorsaf dân yr Wyddgrug.

Meddai Eryl Jones, Cydlynydd Y Ffenics: "Rwyf yn falch o weld fod y cyrsiau hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus unwaith yn rhagor."

" Mae'r cwrs yn ddilyniant o'r cwrs Ffenics cyntaf ac mae'n rhoi cyfle i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.

 

"Rwyf yn mawr obeithio bod y bobl ifanc wedi elwa o fynychu cwrs y Ffenics, ac y byddant yn parhau i elwa yn y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen