Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn tŷ yn Wrecsam

Postiwyd

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i eiddo yn Stryd Fawr, Coed Poeth, Wrecsam am 00.38 o'r gloch y bore Ddydd Mawrth 30ain Gorffennaf.

Fe anfonwyd dwy injan dân o Wrecsam i'r digwyddiad a chafodd y tân ei  ddiffodd gan ddau ddiffoddwr tân a oedd yn gwisgo offer anadlu ac yn defnyddio pibell ddŵr

Aethpwyd â thri o bobl i'r ysbyty i'r ysbyty am driniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.  Y maent bellach wedi cael eu rhyddhau.

Cafodd y preswylwyr eu rhybuddio am y tân gan larymau mwg a oedd wedi cael eu gosod yn y cartref gan ddiffoddwyr tân yn ddiweddar.

Daeth yr ymchwiliad i achos y tân i'r casglid bod y tân wedi ei gynnau gan sigarét nad oedd wedi cael ei diffodd yn gywir.

Meddai Andy Robb, Swyddog Cydymffurfiaeth: "Mae'r digwyddiad hwn yn dwyn i'r amlwg beryglon peidio â diffodd sigaréts yn gywir mewn blychau llwch pwrpasol.

"Mae'n hynod bwysig bod defnyddiau ysmygu yn cael eu diffodd yn llwyr, yn enwedig cyn i chi fyd i'r gwely.  Y ffordd orau i leihau'r peryglon hyn yw peidio ag ysmygu yn y cartref o gwbl.  Y mae nifer o danau sigaréts yn digwydd gyda'r nos pan fydd pobl yn syrthio i gysgu  tra'u bod yn ysmygu neu'n ysmygu yn y gwely, gan roi dodrefn a ffabrigau ar dân.  

"Mae'n peri gofid fod ymchwil yn dangos bod ysmygwyr yn llai tebygol o osod larymau mwg gweithredol yn y cartref i'w rhybuddio mewn achos o dân a rhoi cyfle iddynt ddianc mewn da bryd, na phobl sydd ddim yn ysmygu.

"Os oes gennych chi ffrindiau neu berthnasau hŷn sydd yn ysmygu, gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r peryglon - drwy ddilyn y cynghorion isod gallant leihau'r perygl o ddioddef tân yn y cartref:


-Byddwn yn hynod ofalus os ydych chi wedi blino, yn cymryd meddyginiaeth neu gyffuriau o unrhyw fath neu os ydych wedi bod yn yfed.  Mae'n hawdd iawn syrthio i gysgu tra bod eich sigarét yn parhau i losgi.

-Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely - os oes rhaid i chi orwedd, peidiwch â thanio. Gallwch bendwmpian a rhoi eich gwely ar dân.    

- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigarau neu gatiau yn llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt - gallant syrthio drosodd tra'u bod yn dal i losgi

- Prynwch danwyr a matsis sydd yn ddiogel rhag plant - pob blwyddyn mae plant yn marw ar ôl cynnau tanau gyda matsis a thanwyr.  Cadwch hwy ymhell o gyrraedd plant.

- Defnyddiwch flwch llwch trwm a phwrpasol na ellir ei droi drosodd yn hawdd, ac sydd wedi ei wneud o ddeunydd gwrthdan.   Gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd y sigarét yn gywir ar ôl gorffen - diffoddwch hi, yn llwyr.

- Rhowch y lludw mewn blwch llwch, nid mewn bin sbwriel - gwagiwch eich blwch llwch yn rheolaidd fel nad yw'n llawn lludw a bonion sigaréts.  

- Gosodwch larymau mwg a chofiwch eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd - os bydd tân, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i ddianc.  Fel y mae'r digwyddiad hwn yn ei amlygu, gall larymau mwg roi cyfle i  chi fynd allan, aros allan a galw 999.

"I gael gwybod mwy am ddiogelwch tân ac i gael gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim yn eich cartref, cofrestrwch am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim drwy fynd i  www.gwastan-gogcymru.org.uk neu drwy alw ein llinell rhadffôn 24awr ar 0800 169 1234.

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen