Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am danau sbwriel

Postiwyd

Y mae Swyddogion Tân yn rhybuddio pobl am beryglon llosgi sbwriel neu wastraff gardd wedi  digwyddiad yn Alltmelyd lle cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty.

Cafodd criwiau eu galw amser cinio ddydd Sadwrn ar ôl derbyn galwadau gan bobl a oedd wedi clywed ffrwydrad.  Ar ôl cyrraedd, daeth y diffoddwyr tân o hyd i ddyn a oedd wedi bod yn llosgi gwastraff tŷ. Roedd rhywbeth wedi taro'r dyn yn ystod y ffrwydrad.  Nid oedd wedi dioddef llosgiadau ond aethpwyd ag ef i'r ysbyty am driniaeth i doriadau ar ei wyneb a'i goes.  

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Mae'r digwyddiad yn dwyn  i'r amlwg beryglon llosgi gwastraff gardd a sbwriel - yn ogystal â pheryglu eich hun, rydych hefyd yn rhoi eraill mewn perygl ac yn peryglu eiddo. Oherwydd y tywydd sych diweddar mae cynnau tanau bychan hyd yn oed yn fwy peryglus gan y gallant ledaenu'n sydyn iawn ac achosi llawer o ddifrod a pheryglu bywydau. Maent hefyd yn draul ar adnoddau'r gwasanaeth tân ac achub ac yn ein hatal rhag mynychu digwyddiadau brys eraill.  

"Y mae modd i chi gael gwared ar wastraff gardd drwy ei ailgylchu neu ei roi ar y domen gompost.  Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybod mwy am sut i gael gwared ar wastraff tŷ a gardd ac ailgylchu yn eich ardal leol."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen