Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn tŷ yn Wrecsam

Postiwyd

 

Y mae diffoddwyr tân wedi bod yn delio gyda thân mewn tŷ teras ym Mryn Hafod, Parc Caia, Wrecsam.

 

Cafodd criwiau eu galw am 13.21 o'r gloch ac fe anfonwyd tair injan o Wrecsam i'r digwyddiad.

 

Cafodd y tân ei ddiffodd drwy ddefnyddio pedair set o offer anadlu, dwy bibell ddŵr ac un prif bibell.

 

Fe dderbyniodd dau o bobl, dynes 34 mlwydd oed a'i chymydog, dyn 23 mlwydd oed, driniaeth ragofalol yn y fan a'r lle fan barafeddygon oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.

 

Cafodd y ddynes a'i mab tair blwydd oed eu rhybuddio am y tân gan eu larymau mwg.

 

Mae'r ymchwiliad i achos y tân yn parhau ond credir ei fod wedi ei gynnau'n ddamweiniol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen