Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Atgoffa am ddiogelwch yn dilyn tân eithin a thân fforest

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi atgoffa pobl i aros a meddwl am ganlyniadau tân gwair a thân fforest wrth i griwiau barhau i ymladd tân mewn coedwig yn Llandderfel.

 

Galwyd diffoddwyr tân at y tân am 20.56 o'r gloch neithiwr, nos Sul 21 Gorffennaf. Daeth criwiau o'r Bala, Llangollen a Dolgellau at y digwyddiad i ddechrau, a buont yn ceisio diffodd y tân hyd oriau mân y bore. Daeth criwiau wrth gefn o Gorwen dros nos ac mae criwiau o'r Blaenau Ffestiniog a Llangollen bellach yn eu hôl gyda chriwiau o Ruthun a Blaenau Ffestiniog ac Uned Amddiffyn yr Amgylchedd o Wrecsam gyda chyflenwad dŵr. Mae criwiau wrthi'n mynd i'r afael â'r tân sy'n mud losgi gyda phibellau dŵr, rhag i'r tân ail gydio.

 

Yn y cyfamser, bu criwiau o Bwllheli, Nefyn, Porthmadog a Llangefni yn diffodd tanau eithin ar dir parc gwyliau yn Chwilog, Pwllheli am 14.00 o'r gloch, 19.00 o'r gloch a 19.44 ddoe ac yna am 03.11 a 08.29 y bore yma. Mae'n debyg bod y tân gwreiddiol wedi ei gynnau'n fwriadol a'r tanau eraill wedi lledaenu neu ail-gydio yn dilyn y digwyddiad cyntaf.

 

Diffoddodd criwiau o Lanfairfechan dân eithin am 09.25 o'r gloch y bore yma ar Stryd Pool, Llanfairfechan.


DywedoddBob Mason o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae tanau fel hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar adnoddau, a diffoddwyr tân wedi eu clymu am gryn amser yn ceisio dod â nhw o dan reolaeth. Mae'r tanau hyn yn gallu rhoi bywydau a chartrefi mewn perygl hefyd, ac maen nhw'n bla ar gefn gwlad ac yn gwastraffu arian mawr.

 

"Mae'r amgylchiadau ar hyn o bryd a'r tir sych yn golygu y gall y tanau hyn ledaenu'n gyflym iawn, gan dyfu'n danau mawr sy'n gallu ail-gydio.

 

"Hyd yma, dydyn ni ddim yn gwybod a yw'r tân yn Llandderfel wedi ei gynnau'n fwriadol neu'n ddamweiniol. Rydym yn erfyn ar ymwelwyr â chefn gwlad i fod yn fwy gofalus nag arfer a lleihau perygl tân. Ceisiwch helpu i osgoi tanau gwyllt, drwy beidio â chychwyn tanau agored yng nghefn gwlad, diffodd sigarennau'n iawn, peidio byth â gadael barbeciw heb fod rhywun yn gofalu amdano a'u diffodd nhw'n briodol.

 

"Cofiwch - mae cynnau tân bwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i atal digwyddiadau difrifol, gan ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i union leoliad y tanau a chwilio am y rhai sy'n gyfrifol. Cynghorir unrhyw dyst neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am droseddau o'r fath i alwTaclo'r Taclauyn ddienw ar0800 555 111."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen