Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn ffatri yn Oakenholt - diweddariad

Postiwyd

 

Cafodd pedair injan dân, y Peiriant Cyrraedd yn Uchel a'r Uned Meistroli Digwyddiadau eu galw i dân yn Chester Road, Oakenholt Ddydd Sul 21ain Gorffennaf.

Derbyniwyd yr alwad am 1.11pm heddiw ac fe anfonwyd criwiau o Dreffynnon, Glannau Dyfrdwy, y Fflint, y Peiriant Cyrraedd yn Uchel o Wrecsam a'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl i'r digwyddiad.

Roedd y tân dan reolaeth erbyn 5.38pm.

Sefydlwyd bod y tân wedi ei achosi gan hancesi papur a oedd yn sownd mewn peiriant ac yn rhwbio yn erbyn ei gilydd.  Fe ledaenodd y tân dros 50 medr sgwâr ond ni achoswyd difrod i strwythur yr adeilad.

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu a 4 pibell ddŵr a 3 jet amddiffynnol i ddiffodd y tân.  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen