Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd tywydd poeth gan y gwasanaethau brys

Postiwyd

Mae'r Gwasanaethau Brys yng Ngogledd Cymru yn gobeithio y gall cymunedau lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd wneud y mwyaf o'r tywydd poeth diweddar ond eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol ac yn ystyried y galw ychwanegol a roddir ar wasanaethau brys yr ardal.

 

Meddai Prif Uwcharolygydd Jeremy Vaughan o Heddlu Gogledd Cymru: "Er ei bod hi'n braf gweld yr haul mae'n rhaid i ni gofio bod y tywydd poeth yn denu mwy o ymwelwyr i'n trefi, traethau a pharciau, mae mwy o draffig ar ein ffyrdd, cynnydd yn nifer yr achosion meddygol sy'n ymwneud â'r tywydd yn ogystal â mwy o achosion cysylltiedig ag alcohol. Ar y cyd â'n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, rydym yn gweld galw ychwanegol ar ein gwasanaethau ac er bod pawb yn hoffi mwynhau'r haul, gwnewch hynny mewn modd cyfrifol a chofiwch mai mewn argyfwng yn unig y dylid ffonio 999."

 

Meddai Andrew Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Meddygol a Chlinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae'n deg dweud bod y tywydd wedi effeithio ar y galw ledled Cymru. Byddem yn gwerthfawrogi petai pobl yn ystyriol wrth ffonio 999 ac ond yn gwneud hynny mewn sefyllfaoedd sy'n peryglu bywyd. Mae NHS Direct Cymru, y Meddyg Teulu a Fferyllfeydd i gyd ar gael i helpu ag anafiadau llai difrifol a gwahanol fathau o salwch."

 

Mae NHS Direct Wales, sy'n rhan o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, wedi cyhoeddi ychydig o gyngor syml am sut i ymdopi yn y gwres. Am fwy o wybodaeth ewch i:

 

Dywedodd Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mwynhewch ond byddwch yn ofalus yng ngwres yr haf - dyna ein neges i bobl Gogledd Cymru wrth i'r haul barhau i dywynnu yn yr ardal. Rydym am i bobl fabwysiadu'r cyngor diogelwch yr ydym yn ei roi - fe allai olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Mae'n bwysig bod yn ddiogel a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun.

 

Am fwy o gyngor ewch i:

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen