Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau brys yn rhybuddio rhag cychwyn tanau

Postiwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol i rybuddio pobl rhag peryglon cychwyn tanau all ledaenu'n gyflym allan o reolaeth yn y tywydd sych. Gallai hynny olygu anafiadau, difrod sylweddol ac erlyniad posibl.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wedi eu galw at nifer o danau eithin a thanau gwair, a'r rheiny weithiau o ganlyniad i bobl yn ceisio cychwyn tân gwersyll. Mae digwyddiadau eraill yn ganlyniad fandaliaeth fwriadol.
Rhwng 1af Mehefin - 18fed Gorffennaf, ar draws Gogledd Cymru, galwyd diffoddwyr tân i ymdrin â 70 o danau damweiniol a 39 o danau gwaith neu danau eithin bwriadol.
Mae'r heddlu wedi cynyddu eu gwyliadwriaeth ac maen nhw'n gofyn i gymunedau lleol roi gwybod iddynt cyn gynted a bo modd os gwelant ymddygiad amheus, ac mae Kevin Jones, y Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol yn tynnu sylw at y canlyniadau: "Mae tanau fel hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar adnoddau, a bydd diffoddwyr tân wedi eu clymu am gryn amser yn ceisio dod â nhw o dan reolaeth.
"Rydym yn erfyn ar ymwelwyr â chefn gwlad, a'r bobl leol sy'n mwynhau'r tywydd da i fod yn fwy gofalus nag arfer a lleihau perygl tân. Ceisiwch helpu i osgoi tanau gwyllt, drwy beidio â chychwyn tanau agored yng nghefn gwlad, diffodd sigarennau'n iawn, peidio byth â gadael barbeciw heb fod rhywun yn gofalu amdano, a'u diffodd nhw'n briodol.
"Mae digwyddiadau pan gyneuir tân yn fwriadol yn rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau ac yn rhoi criwiau a'r cyhoedd mewn mwy o berygl. Wrth gwrs, tra mae'r criwiau'n brysur yn ymdrin â'r digwyddiadau hyn, ni fyddant yn gallu ateb galwadau eraill lle gellir bod eu hangen mewn sefyllfaoedd argyfyngus.
"Cofiwch - mae cynnau tân bwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i atal digwyddiadau difrifol, gan ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i union leoliad y tanau a chwilio am y rhai sy'n gyfrifol.
Gellir cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu'n ddienw drwy Taclo'r Taclau ar 0800 555 111.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen