Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl yn dilyn tanau bwriadol yn Sir y Fflint

Postiwyd
Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdrin a thanau bwriadol yn Shotton Lande, Queensferry, High Park, Penarlag, The Highway, Penarlag, Ffordd Sealand, Chemistry Lane, Pentre, Gamfa Wen, Talacre, Ffordd Caer, Sandycroft a Stryd Milford, yr Wyddgrig rhwng Gorffennaf 15fed a Gorffennaf 19eg.
Dywedodd Kevin Jones, Rheolwr Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol:
"Mae digwyddiadau pan gyneuir tân yn fwriadol yn rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau ac yn rhoi criwiau a'r cyhoedd mewn mwy o berygl. Wrth gwrs, tra mae'r criwiau'n brysur yn ymdrin â'r digwyddiadau hyn, ni fyddant yn gallu ateb galwadau eraill lle gellir bod eu hangen mewn sefyllfaoedd argyfyngus.
"Cofiwch - mae cynnau tân bwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i atal digwyddiadau difrifol, gan ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i union leoliad y tanau a chwilio am y rhai sy'n gyfrifol.
Gellir cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu'n ddienw drwy Taclo'r Taclau ar 0800 555 111.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen