Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn tŷ yn Minera, Wrecsam

Postiwyd

 

Y mae diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn delio gyda thân yn New Brighton, Minera, Wrecsam ar hyn o bryd.

 

Am 10.56pm neithiwr (Dydd Sul , Gorffennaf 14) hysbyswyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod tân mewn tŷ sengl.  Y mae chwe phwmp yn bresennol - o Johnstown, Wrecsam, y Waun a  Llangollen.

 

Ni chredir bod unrhyw un wedi ei anafu a llwyddodd pawb i fynd allan o'r eiddo cyn i'r diffoddwyr tân gyrraedd.

 

Unwaith y caiff y tân ei ddiffodd cynhelir ymchwiliad i geisio dod o hyd i achos y tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen