Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Annog carafanwyr a gwersyllwyr i gymryd pwyll wedi i ddwy ddynes ddioddef llosgiadau

Postiwyd

 

Mae gwersyllwyr a charafnawyr yn cael eu hannog i gymryd pwyll wedi i ddwy ddynes gael eu cludo ir ysbyty yn dioddef llosgiadau ar ôl digwyddiad yn ymwneud â choginio mewn gwersyllfa yn Nant Gwynant, Caernarfon heno.  

 

Galwyd diffoddwyr tân o Gaernarfon i'r gwersyll am 18.18 o'r gloch, nos Iau 27 Mehefin ar ôl i silindr bwtan a phropan a oedd yn cael ei ddefnyddio i goginio ffrwydro.

 

Aethpwyd â'r ddwy mewn ambiwlans i'r ysbyty am driniaeth ar ôl iddynt ddioddef llosgiadau i'w hwynebau.

 

Meddai Gareth Griffiths o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Oherwydd e bod yn fannau cyfyngedig iawn mae llawer mwy o beryglon mewn carafannau a phebyll na sydd yn y cartref - felly mae'n bwysig nad ydych yn anghofio'r peryglon hwn a'ch bod yn cadw cynghorion diogelwch tân mewn cof pan fyddwch ar eich gwyliau.  

 

"Nid ydym yn argymell coginio mewn pebyll.  Mae hyd yn oed pebyll sydd i fod i wrthsefyll tân yn gallwn llosgi - byddwch hyd yn oed yn fwy ymwybodol o'r peryglon mewn pebyll sydd gan un allanfa yn unig.

 

"Peidiwch â newid silindrau nwy  nac ail-lenwi stofiau petrol neu losgnwy y tu mewn i bebyll a chadwch hwy y tu allan os yw hynny'n bosib.

 

"Rhowch gynnig ar ddefnyddio'ch stof cyn i chi fynd ar eich gwyliau  - a gwnewch y siŵr bod stofiau a barbiciws  wedi eu gosod ar fan sefydlog rhag ofn iddynt droi drosodd."


Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori pobl sydd yn bwriadu mynd ar wyliau mewn carafán neu babell i gadw'r cynghorion canlynol mewn cof.

 

Byddwch barod:

 

• Gwnewch yn siŵr bod carfanau a phebyll yn cael ei gosod o leiaf 6 medr oddi wrth ei gilydd.

• Edrychwch i weld pa offer diffodd tân sydd ar gael ar y maes carafanio ac ymhle mae'r ffôn agosaf.

• Gosodwch larwm mwg optegol yn eich carafán a gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio.

• Cadwch dortsh wrth law rhag ofn bydd argyfwng. Peidiwch â defnyddio canhwyllau.

Gwnewch yn siŵr bod offer diffodd tân dwr neu bowdr sych sydd wedi ei wefru'n llawn yn eich carafán ger yr allanfa a blaned dân yn y man coginio.

• Peidiwch â gadael pant ar eu pennau eu hunain yn y garafán - a chadwch fatsis ymhell o'u cyrraedd.

Peidiwch â gorlwytho socedi trydan neu lidiau estyn pan fyddwch yn defnyddio'r gyflenwad drydan a gwnewch yn siŵr bod yr holl offer trydanol yn gweithio'n iawn

Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod sut i fynd allan

• Cadwch hylifau fflamadwy a silindrau nwy ymhell o bebyll.

• Peidiwch â choginio y tu mewn i'r babell.

• Byddwch yn barod i dorri'r babell er mwyn mynd allan  yn ddiogel os bydd tân.

• Os aiff eich dillad ar dân STOPIWCH, DISGYNNWCH A RHOLIWCH.

• Ni ddylid defnyddio cyfarpar sydd yn llosgi olew mewn pebyll neu yn agos at bebyll.

• Ni ddylid defnyddio offer coginio mewn pebyll bychan.

• Peidiwch ag ysmygu mewn pebyll.

 

 

Os bydd tân:

• Gwnewch y siŵr bod pawb yn mynd allan ar unwaith. Gall tanau ledaenu'n gyflym iawn mewn pebyll a  charafannau.

• Galwch y gwasanaeth tân ac achub.

• Rhowch y cyfeirnod map , os ydyw ar gael. Neu fel arall, rhowch wybodaeth am dirnodau amlwg yn yr ardal a all helpu'r gwasanaeth tân ac achub i ddod o hyd i chi, er enghraifft enw fferm neu dafarn.

 

 

Nwy potel:

  • ·        Mae'n rhaid bod yn hynod ofalus wrth ddefnyddio silindrau nwy rhag ofn iddynt nhw ffrwydro ac achosi tân
  • ·        Cadwch silindrau y tu allan i'r garafán oni bai bod system awyru arbennig y tu mewn.
  • ·        Diffoddwr yr holl gyfarpar cyn mynd i'r gwely neu gadael y garafán - dylid diffodd y silindr yn ogystal oni nai bod offer y gweld eu gadael ymlaen yn eu defnyddio e.e. oergelloedd
  • ·        Peidiwch byth â choginio wrth deithio.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb, yn cynnwys carafanwyr, ac rydym yn gosod larymau mwg os eos raid  - ffoniwch rhadffôn 0800 169 1234 neu anfonwch ebost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen