Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ennill Gwobr Ysbrydoli Cymru 2013 gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA)

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dathlu ar ôl ennill y categori Cymraeg yn y Gweithle yn seremoni Gwobrau Ysbrydoli Cymru'r Sefydliad Materion Cymreig yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, neithiwr.

 

Roedd y gwasanaeth tân ac achub yn un o dri a gyrhaeddodd rownd derfynol y wobr, yn dilyn eu dethol drwy gyfweliad gan dri o feirniaid y mis diwethaf. Ymysg y rhai eraill yn y rownd derfynol yr oedd Cyngor Sir Ceredigion a Banc Brenhinol yr Alban, Grŵp RBS.

 

Nod Gwobrau Ysbrydoli Cymru'r IWA, mewn cydweithrediad a'r Western Mail, yw codi proffil y cyfraniad a wneir gan ddynion a merched Cymru yn ein cymdeithas, er mwyn annog dinasyddiaeth weithgar a gosod esiampl i eraill.

 

Mae'r wobr yn y categori Cymraeg yn y Gweithle, dan nawdd The CADCentre (UK) Cyf, yn cydnabod y camau gweithgar y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi eu cymryd i hybu a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, a hynny'n arwain at greu effaith gadarnhaol yn y sefydliad.

 

Dywed Emma Brennan o'r Sefydliad Materion Cymreig: "Roedd nifer ac ansawdd yr ymgeiswyr yn y categori hwn yn anhygoel o uchel eleni, ac mae hwn felly'n llwyddiant ardderchog i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru."

 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith, ei fod wrth ei fodd bod y Gwasanaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth drwy'r wobr, a thalodd deyrnged i'r staff ar draws y sefydliad sydd wedi ymrwymo i'r Gymraeg.

 

"Rydym wedi bod yn gweithio tuag at feithrin gwasanaeth tân ac achub sy'n gweddu i'r cyhoedd yng Nghymru ac yn dangos cwrteisi a chydymdeimlad tuag at iaith a diwylliant Cymru. Achub bywydau a lleihau peryglon yw craidd ein gwaith ni - ac mae'r Gymraeg yn hanfodol i'n llwyddiant," meddai.

 

"Mae bod yn sefydliad dwyieithog yn ein galluogi i gynnig ymateb brys o'r ansawdd orau bosibl i'r cyhoedd yng Ngogledd Cymru - byddwn yn aml yn ymdrin â rhywun agored i niwed mewn sefyllfaoedd bregus iawn, ac mae gallu cynnig gwasanaeth dwyieithog yn gallu achub bywydau, yn llythrennol.

 

"Mae gan ein staff agwedd gadarnhaol iawn tuag at ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, yn ogystal ag yn y gymuned, a'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i'r cyhoedd. Mae staff sy'n gweithio fel hyrwyddwyr y Gymraeg yn mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau o ddydd i ddydd i'n helpu ni i hyrwyddo defnyddio'r iaith, a byddwn yn annog ein gweithwyr i ddysgu siarad Cymraeg a defnyddio'u sgiliau. Mae hyn i gyd wedi codi safon ein gwasanaeth i gwsmeriaid yn uwch fyth.

 

"Mae'n galonogol ein bod wedi profi galw gwirioneddol am wasanaethau dwyieithog yn ein cymuned - ac mae'r ffaith bod y nifer sy'n derbyn archwiliadau diogelwch tân yn y cartref drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi codi'n raddol o 4% i 20% mewn tair blynedd, yn brawf o hyn.

 

"Hoffem ddiolch i'n partneriaid Heddlu Gogledd Cymru a'r hen Fwrdd yr Iaith Gymraeg am eu cymorth a'u cefnogaeth i wella'n sgiliau gyda'r Gymraeg."

 

Llun (gan Media Cymru):Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Hyfforddi a Datblygu, yn derbyn gwobr Ysbrydoli Cymru'r IWA ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru - cyflwynwyd gan (ar y dde) Ali Anwar, Rheolwr Gyfarwyddwr The CADCentre UK Cyf (noddwyr y categori).

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen