Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn fflat yn Abergele

Postiwyd

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru oherwydd adroddiadau am dân mewn fflat ar Stryd y Bont, Abergele am 20.54 o'r gloch (18fed Mehefin).

 

Daeth diffoddwyr tân o Abergele i'r digwyddiad a defnyddiwyd dwy set o offer anadlu a phibell ddŵr i ddiffodd y tân.

 

Roedd pump o bobl yn dioddef o ychydig o effeithiau anadlu mwg o ganlyniad i'r digwyddiad ac aed a nhw i'r ysbyty. Ymysg y cleifion, roedd gwraig oedd wedi dioddef mân anafiadau hefyd.

 

Difrod i ran fechan o'r carped ar y llawr cyntaf oedd yr unig ddifrod i'r eiddo.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wrthi'n ymchwilio ar y cyd i'r digwyddiad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen