Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ethol cadeirydd newydd ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

 

Etholwyd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, o Gyngor Sir Ddinbych, yn Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod Tân ac Achub, a gynhaliwyd yn Siambr Cyngor, Rhuthun, yn gynharach heddiw (dydd Llun 17eg Mehefin).

Mae'r Cynghorydd Davies  yn cymryd lle'r Cynghorydd Aled Morris Jones, o Gyngor Ynys Môn,  a fu'n Gadeirydd gyda'r Awdurdod am flwyddyn ac is-gadeirydd am dair blynedd.

Fe gychwynnodd y Cynghorydd Davies ar ei yrfa mewn llywodraeth leol 30 mlynedd yn ôl. Y mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd gyda Chyngor Sir Ddinbych ar ddau achlysur rhwng 1995 a 2013 ac y mae wedi bod yn aelod o'r Awdurdod Tân ac Achub ers 1999.

Dyma oedd ganddo i'w ddweud ar gael ei ethol yn gadeirydd yr Awdurdod am y 12 mis nesaf: " Mae gennym lwybr llafurus o'm blaenau ond rwyf yn mawr obeithio y gallwn gydweithio a defnyddio ein profiad a'r ffeithiau a'r wybodaeth sydd ar gael i ni heddiw er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n fraint ac anrhydedd cael ymgymryd â'r rôl hon a thrwy gydweithio effeithiol rwyf yn mawr obeithio y gallaf arwain yr Awdurdod drwy unrhyw heriau sydd i ddod.  Ein cyfrifoldeb ni yw darparu gwasanaeth tân ac achub ar draws ardal ddaearyddol eang yma yng Ngogledd Cymru, ac o'r herwydd mae'n rhaid i ni fel Awdurdod fod yn ddigon mawr i ymdopi ond yn ddigon bach i boeni. "

Y Cynghorydd Peter Lewis MBE, o Gyngor Conwy a gafodd ei ethol yn is-gadeirydd.  

Fe ymunodd y Cynghorydd Lewis â'r Awdurdod Tân ac Achub yn 2012. Meddai: "Fel is-gadeirydd newydd rwyf yn barod i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi'r Cadeirydd, y Prif Swyddog Tân ac Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub i wneud yn siŵr bod Gogledd Cymru yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi, ac rwyf yn gwerthfawrogi'r hyder a fynegwyd o ran fy gallu i gyflawni'r rôl hon."

 

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen