Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio pobl am beryglon coginio ar ôl bod yn yfed ar ôl achub dyn ym Mlaenau Ffestiniog

Postiwyd

Y mae swyddogion tân yn atgoffa'r cyhoedd am beryglon yfed a choginio wedi i ddyn yn ei 40au gael ei achub o'i gartref yn ystod oriau man bore, fore Sul (Mehefin 15fed).

Galwyd diffoddwyr tân o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog i dân ym Mhen Y Bryn, Blaenau Ffestiniog am 02:04 o'r gloch. Cafodd y dyn, yr unig un a oedd yn yr adeilad, ei dywys allan o'r adeilad yn ddiogel.

Fe ddefnyddiodd y criwiau ddau set o offer anadlu i ddelio gyda'r tân, a achoswyd gan fwyd a oedd wedi cael ei adael yn coginio.

Fe glywodd un o'r cymdogion y larwm mwg yn seinio a galw'r gwasanaeth tân ac achub.  Ni chafodd y dyn ei ddeffro gan sŵn y larwm a chafodd driniaeth ragofalol yn y fan a'r lle gan ei fod wedi anadlu mwg.  

 

Meddai Terry Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Nid yw yfed a choginio yn gyfuniad doeth - mae alcohol yn gwneud i bobl anghofio'r peryglon.

"Dyma ein cyngor ni - peidiwch byth â choginio ar ôl bod yn yfed. Paratowch frechdan i chi'ch hun cyn mynd allan neu prynwch tecawê ar eich ffordd adref.

"Mae'n bwysig bod gennych chi larwm mwg gweithredol i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel.  Am gyngor ynglŷn â pheryglon tân, cofrestrwch am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, cwblhau asesiad risgiau tân ac, os oes rhaid, yn gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim.

"Mae'r archwiliadau hyn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  I drefnu archwiliad, galwch ein llinell rhadffôn ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk, ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org,uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi HFSC ar ddechrau'r neges. Rhannwch eich manylion cyswllt a bydd aelod o'r Gwasanaeth yn cysylltu â chi i drefnu archwiliad ar adeg sydd yn gyfleus i chi."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen