Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad pellach - Tân mewn Parc Busnes yn Nhreffynnon

Postiwyd

 

Mae diffoddwyr tân yn parhau gyda'r broses dampio yn dilyn tân mewn uned ddiwydiannol ym Mharc Busnes Greenfield, Ffordd Bagillt, Maes-glas, Treffynnon.

Mae pobl wedi cael dychwelyd i'w cartrefi erbyn hyn, ond bydd yr A548, prif ffordd y glannau sydd yn mynd heibio Parc Busnes Greenfield, yn parhau i fod ar gau nes clywir yn wahanol.

Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ddiolch i bawb am eu cydweithrediad a'u hamynedd yn ystod y digwyddiad.

Meddai Darren Jones, Pennaeth Adran Cefnogaeth Dechnegol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Hoffem ddiolch i bawb am ymateb i'r negeseuon yr ydym wedi eu hanfon allan heddiw."

"Fe weithiodd yr ymateb amlasiantaethol yn dda dan amgylchiadau anodd - silindrau nwy, gwyntoedd cryfion a llawer o fwg - gan wneud yn siŵr bod y cyhoedd a phawb a oedd yn rhan o'r digwyddiad yn cadw'n ddiogel."

Bydd ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal  ar y cyd gan Wasanaeth  Cymru a Heddlu Gogledd Cymru maes o law.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen