Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Seremoni Wobrwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

 

Fe gyflwynodd Arglwydd Raglaw Gwynedd, Ei Anrhydedd Huw Morgan Daniel, Fedalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yn ystod seremoni Wobrwyo a  gynhaliwyd yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl Ddydd Ddydd Mercher 15 Mai.

Mae'r Medalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yn cael eu cyflwyno i ddiffoddwyr tân gan un o Gynrychiolwyr Ei Mawrhydi i gydnabod 20 mlynedd o wasanaeth.

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân : "Mae derbyn medal yn achlysur pwysig iawn i bob diffoddwr tân ac mae'r seremoni hwn yn cynrychioli dros 100 mlynedd o ymroddiad ac ymrwymiad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dylai pob un ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi derbyn y Fedal am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw neu Wobr am Wasanaeth Hir. "

Cafodd tystysgrifau eu cyflwyno i gydnabod gwaith ar y cyd yn ystod y  llifogydd difrifol yn 2012 yn ogystal.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen