Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larymau mwg yn helpu i achub bywydau cwpl o’r Rhyl

Postiwyd

Mae larymau mwg a osodwyd gan ddiffoddwyr tân wedi helpu i achub bywydau cwpl o'r Rhyl y prynhawn yma wedi i sosban sglodion fynd ar dân yn eu cartref.

Cafodd diffoddwyr tân o'r Rhyl eu galw i'r tŷ ar River Street, yn y Rhyl am 14:17o'r gloch y prynhawn yma, Dydd Iau Chwefror 28.

Cafodd y cwpl eu rhybuddio am y tan wedi i'r larymau mwg yn eu cartref, a osodwyd yn ystod archwiliad diogelwch tân yn y cartref, seinio rhybudd. Llwyddodd y ddau i ddianc o'r eiddo yn ddiogel.

Fe achosodd y tân ddifrod mwg 60% yn y gegin. Credir mai sosban sglodion wedi ei gadael heb neb i gadw llygaid arni oedd achos y tân.

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Sir Ddinbych a Chonwy: "Mae'r digwyddiad hwn yn amlygu gallu larymau mwg i achub bywydau - oherwydd bod y larymau wedi seinio rhybudd llwyddodd y preswylwyr i ddianc o'r eiddo yn ddiogel.

"Mae sosbenni sglodion yn beryglus iawn - yn ffodus iawn mae nifer y tanau sosbenni sglodion yn gostwng oherwydd bod pobl yn cymryd sylw o'n rhybuddion- ond yn amlwg mae'n rhaid i breswylwyr fod yn breswylwyr fel yn achos y digwyddiad hen.  Mae'n hawdd iawn  i chi droi eich cefn ac yna canfod tân difrifol y funud nesaf os nad ydych yn cymryd gofal wrth goginio.  Mae ein neges yn glir - taflwch eich hen sosban sglodion a phrynwch ffriwr saim dwfn yn ei lle, sydd yn opsiwn llawer mwy diogel.

"Gall gadael sosban sglodion am gyfnodau hir heb neb i gadw llygaid arni arwain at ganlyniadau trychinebus wrth  i'r olew orboethi a mynd ar dân. Drwy newid i ddefnyddio ffriwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gallwch atal digwyddiad o'r fath.

"I gael gwybod mwy am ddiogelwch tân a chael gosod larymau mwg yn eich cartref yn rhad ac am ddim , cofrestrwch am archwiliad diogelwch tân yn y cartref drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.uk  neu alw ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234."

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen