Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ffrïwch yn ofalus yn ystod Wythnos Genedlaethol Sglodion 20fed-26ain Chwefror

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pawb sydd yn caru sglodion i gymryd gofal wrth goginio un o hoff fwydydd y genedl yn ystod Wythnos Genedlaethol Sglodion (18-24 Chwefror 2013).

 

Yn y gegin y dechreuodd 292 o'r holl danau a ddigwydd yn y cartref yng Ngogledd Cymru rhwng 2010-2011. Er mai dim ond 28 o'r rheiny a achoswyd gan sosbenni sglodion fe ddioddefodd 20 o bobl anafiadau o ganlyniad i'r tanau hyn sydd yn dangos pa mor beryglus ydynt.

Gall gadael sosban sglodion heb neb yn gofalu amdani fod yn drychinebus gan y gall yr olew orboethi'n hawdd a mynd ar dân.  Mae coginio sglodion yn y popty neu ddefnyddio ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r tymheredd yn opsiynau llawer mwy diogel.

"Bydd sglodion ar y fwydlen yr wythnos hon, boed y rheiny'n sglodion o'r siop tships neu'n sglodion cartref" meddai Dave Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

"Ond gall tân gynnau mewn ychydig eiliadau os na fyddwch yn canolbwyntio. Mae sglodion popty yn iachach ac yn fwy diogel, ond, os dewiswch ffrio'ch sglodion peidiwch â gadael y sosban heb neb yn goflau amdani.  Os digwydd i'r sosban fynd ar dân, peidiwch â thaflu dŵr drosti - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999."

Os byddwch yn dewis ffrïo'ch sglodion dilynwch y cynghorion canlynol bob amser i'ch helpu i gadw'n ddiogel:

Peidiwch â gorlenwi'ch sosban ag olew - ni ddylech lenwi'r sosban â mwy na thraean o olew.

  • Gofalwch na fydd y sosban yn gorboethi - gall olew poeth fynd ar dan yn gyflym iawn.
  • Defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r tymheredd fel na fydd yr olew yn mynd yn rhy boeth
  • Peidiwch byth â thaflu dŵr ar sosban sglodion os aiff ar dân,
  • Peidiwch â choginio os ydych wedi bod yn yfed alcohol.
  • Os bydd tân, cadwch eich cynllun dianc mewn cof.
  • Peidiwch â pheryglu'ch bywyd drwy geisio diffodd y tân eich hunan.  Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.
  • Gosodwch larymau mwg a phrofwch hwy bob wythnos.


Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tan yn y cartref am ddim lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, yn eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.


I gofrestru am archwiliad diogelwch tan yn y cartref galwch ein llinell 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i  www.gwastan-gogcymru.org.uk.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Sglodion ewch i : http://www.lovechips.co.uk/

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen