Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Peidiwch â gadael i bethau ‘boethi’ y diwrnod San Ffolant hwn!

Postiwyd

Efallai y bydd nifer ohonoch wedi eich swyno gan ramant y Dydd San Ffolant hwn ond mae diffoddwyr tân yn annog cyplau i beidio â gadael i bethau fynd yn danbaid.

Mae Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru am i bobl gymryd pwyll ar 14 Chwefror os ydynt yn bwriadu cael noson ramantus - yn enwedig os byddant yn defnyddio fflamau agored.

Gall cyfuniad o ganhwyllau ac alcohol arwain at drwbl os cânt eu defnyddio yn y ffordd anghywir.  Mae peryg i chi roi eich gwallt neu'ch dillad ar dân os byddwch yn gwyro dros gannwyll am gusan.

Coginio yw prif achos mwyafrif y tanau yn y cartref yn y wlad hon, felly mae'n bwysig eich bod yn canolbwyntio pan fyddwch yn paratoi pryd rhamantus i'ch cariad.

Meddai Paul Scott, Rheolwr y Tîm Diogelwch Cymunedol: "Er y gall noson San Ffolant fod yn noson ramantus iawn gall y cyfuniad o hwyliau da, alcohol a rhamant arwain at ganlyniadau trychinebus.  Rydym am i bawb fwynhau'r noson ramantus a chadw'n ddiogel, felly gwrandewch ar ein cynghorion diogelwch

"Yn anad dim, gwnewch yn siŵr mai dim ond cariad fydd yn cynnau y diwrnod San Ffolant hwn drwy gadw'n ddiogel rhag tân."

Mae canhwyllau yn creu awyrgylch ramantus ond cofiwch:

- eu cadw ymhell o wrthrychau fflamadwy megis llenni, llieiniau neu ddillad gwlâu.

- gall canhwyllau bach crwn losgi ar dymheredd uwch na 200 gradd a bydd gwaelodion metel y canhwyllau hyn yn boeth iawn felly cofiwch ddefnyddio daliwr canhwyllau a pheidiwch byth â'u gosod ar y bath neu ar setiau teledu.  

- gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd canhwyllau'n iawn cyn mynd i'r gwely.

Mae coginio pryd arbennig yn ffordd dda o ddatgan eich cariad, ond cofiwch fod dros 50 y cant o danau yn y cartref yn cychwyn yn y gegin felly:

- cymrwch ofal pan fyddwch yn ffrïo

- gwnewch yn siŵr bod y gridyll a'r popty yn lân fel nad oes peryg i saim fynd ar dân

- peidiwch â gadael bwyd yn coginio heb neb yn goflau amdano - mae'n bwysig canolbwyntio.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y  cartref lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch , eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar  0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen