Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cartref ym Mwlchgwyn wedi ei ddifrodi’n llwyr gan dân

Postiwyd

 

Y mae Swyddogion Tân heddiw'n amlygu pwysigrwydd larymau mwg a rhagofalon diogelwch tân wedi i dân ddinistrio cartref ym Mwlchgwyn neithiwr.

 

Fe achosodd y tân ddifrod 95% i'r eiddo ar Wesley Road, ac fe ddefnyddiodd criwiau o Johnstown, Bwcle a Llangollen yn ogystal â'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl offer anadlu a phibellau dŵr i geisio diffodd y tân ar ôl cael eu galw yno  am 18.36 o'r gloch neithiwr, Rhagfyr 22.

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol.

 

Cafodd y teulu eu rhybuddio am y tân gan larymau mwg a oedd wedi eu gosod yn yr eiddo a llwyddodd pawb i fynd allan yn ddiogel.

 

Meddai Tony Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Y mae tanau bob amser yn ddifrodus, ond mae colli cartref a'i holl gynnwys cyn y Nadolig yn anodd iawn.  Gallem fod wedi bod yn delio gyda digwyddiad trasig iawn ond yn ddiolchgar ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y tân - gan bod y larymau mwg wedi seinio'n gynnar llwyddodd pawb i fynd allan yn ddianaf.  Y mae'r math yma o ddigwyddiad yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol - gallant arbed eich bywyd chi a'ch anwyliaid.

 

"Oherwydd difrifoldeb y tân, nid oedd yn bosib gweld beth yn union a achosodd y tân - fodd bynnag, credir mai tân trydanol ydoedd.

 

"Rydym yn cael ein galw i oddeutu 470o danau damweiniol yn y cartref bob blwyddyn ac mae eitemau trydan yn gyfrifol am oddeutu 300 o'r tanau hyn.  

 

"Y mae oddeutu 90 o'r rhain o ganlyniad i namau trydanol - ond mae'r mwyafrif wedi eu hachosi o ganlyniad i gamddefnyddio'r eitemau hyn.  Mae'n bwysig eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ac y  archwilio'r eitemau hyn rhag ofn bod y gwifrau edi eu difrodi neu wedi treulio. Y mae cymaint o drigolion yn defnyddio offer trydanol hen a pheryglus neu'n gorlwytho socedi trydan, a gall hyn achosi tanau.

 

"Diffoddwr gyfarpar trydanol pan nad ydych yn eu defnyddio, oni bai eu bod wedi eu dylunio i gael eu cadw ymlaen a chymrwch ofal gyda goleuadau Nadolig - diffoddwch hwy a thynnwch y plwg cyn mynd i'r gwely.  Rydym yn defnyddio llawer o eitemau trydan dros y Nadolig megis goleuadau, addurniadau a gemau ayb   - peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau, defnyddiwch lidiau estyn diogel.  Defnyddiwch ein cyfrifiannell ampau drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk /eich cadw chi'n ddiogel/ gofalu am offer trydanol neu dilynwch y ddolen yma   /looking-after-the-electrics.aspx?lang=cy."

 

Am ragor o gyngor neu gyfarwyddyd pellach ar ddiogelwch tân neu am gyfle i gael gosod larymau mwg yn eich cartref yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim.

 

I gofrestru galwch ein llinell rhadffôn 24 awr 0800 169 1234 ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi HFSC ar ddechrau'r neges.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen