Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru unwaith eto'n erfyn ar i'r cyhoedd 'gymryd pwyll arbennig' yn nhermau diogelwch tân yn y cartref a diogelwch ffyrdd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y byddai diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol dros yr ŵyl;

Postiwyd

Y mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru unwaith eto'n erfyn ar i'r cyhoedd 'gymryd pwyll arbennig' yn nhermau diogelwch tân yn y cartref a diogelwch ffyrdd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y byddai diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol  dros yr ŵyl;  

 

  • Noswyl Nadolig,Nos Fawrth 24ain Rhagfyrrhwng 7.00pm a hanner nos
  • Nos Galan,Nos Fawrth 31ain Rhagfyrrhwng 6.30pm a 12.30am y bore canlynol
  • Dydd Gwener 3ydd Ionawr rhwng 630am a 8.30am

 

 

Fe bwysleisiodd y Prif Swyddog Tân, Simon Smith: " Ar yr achlysur hwn mae Undeb y Brigadau Tân wedi dewis strecio dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar adeg pan fydd nifer o bobl yn cymdeithasu ac yn yfed, neu'n coginio ac yn dathlu gyda ffrindiau a theulu yn y cartref - sydd yn golygu y bydd pobl yn fwy agored i beryglon..

 

"Dros yr ŵyl mae galwadau i'r gwasanaeth tân ac achub ar eu uchaf - fel arfer mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymateb i un neu ddau o danau yn y cartref bob dydd, ond dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd mae hyn yn cynyddu i 5 tân y diwrnod.

 

"Mae hi bob amser yn bwysig i bobl gymryd sylw o ddiogelwch tân yn y cartref, yn ogystal â diogelwch ffordd, ond mae hyn yn bwysicach fyth yn ystod streic.

 

"Mae'r neges ynglŷn â chymryd pwyll arbennig a meddwl ddwywaith am y math o sefyllfaoedd peryglus y gallant eu hwynebu yn neges ddifrifol iawn.  Yn anffodus, mae'n debygol na fyddwn yn gallu ymateb yn yr un modd ag arfer yn ystod y streic,  felly atal sydd orau - gofynnwn i bawb gymryd camau syml i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel;

 

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a phrofwch y larwm yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio
  • Peidiwch ag yfed a choginio - mae'n gyfuniad peryglus. Mae pawb yn mwynhau llymaid dros y Nadolig ond byddwch yn gyfrifol a pheidiwch â gadael bwyd yn coginio.  Os ydych yn llwglyd ar ôl noson allan prynwch tecawê neu gwnewch frechdan -  peidiwch â nôl eich sosban sglodion na gadael bwyd yn coginio.
  • Ceisiwch osgoi siwrneiau diangen - os byddwch yn ddigon anffodus i ddioddef gwrthdrawiad ffordd mae'n bosib na fyddwn yn eich cyrraedd mor gyflym ag arfer
  • Diffoddwch  unrhyw gyfarpar trydanol nad ydych yn ei ddefnyddio cyn i chi fynd i'r gwely a chaewch bob drws - gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun dianc o dân
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd defnyddiau ysmygu yn iawn a chymrwch bwyll gyda chanhwyllau - maent yn edrych yn neis iawn ond maent yn hynod beryglus, peidiwch â'u gadael yn llosgi hen neb i gadw llygaid arnynt a pheidiwch â'u gosod yn agos at ddefnyddiau hylosg.
  • Glanhewch ei simnai a defnyddiwch gard tân ar danau agored
  • Os bydd tân yn cynnau - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.  Peidiwch â chael eich temtio i  daclo'r tân eich hun."

 

Mae cyngor diogelwch a chyfarwyddyd ar gael i'r cyhoedd a busnesau ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymruwww.gwastan-gogcymru.org.uk  a'u safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ar Facebook www.facebook.com/Northwalesfireservice a Twitter @NorthWalesFire (#takeextracare), yn ogystal â'r newyddion lleol.

 

Y mae pawb yn hoffi mwynhau eu hunain dros y Nadolig ond rydym yn eich cynghori i gadw diogelwch tân mewn cof drwy ddilyn eich cynghorion syml ar sut i ddathlu'n ddiogel dros y Nadolig. Mae'r cynghorion ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'u safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.

 

Y mae  disgwyl i nifer uchel o staff y gwasanaeth tân ac achub brotestio ac o ganlyniad bydd gostyngiad yn yr adnoddau ni ar gael i ni.  O ganlyniad, ni fydd yn bosib i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddarparu ymateb brys yn yr un modd ag arfer - bydd yn parhau i ymateb i alwadau brys ond bydd yn rhoi blaenoriaeth i anfon adnoddau i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.

 

Bu i'r Prif Swyddog Tân Simon Smith gysuro'r cyhoedd: " Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith i barhau i ddarparu gwasanaeth  drwy gydol y streic" ond fe rybuddiodd  " mae'n bosib y bydd y gwasanaeth yn gyfyngedig ar adegau dan yr amgylchiadau".  

 

" Bydd trefniadau parhad busnes y Gwasanaeth yn helpu i adref y gwasanaethau arferol yn ddiogel a chyflym wedi'r cyfnod o weithredu diwydiannol."

 

Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi ac yn parchu pryderon y staff sydd wedi arwain at eu penderfyniad i brotestio'n gyfreithlon yn y modd hwn, mae gennym ddyletswydd a rhwymedigaeth i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd, cyn belled â bod hynny'n ymarferol bosib.  Dyma anghydfod rhwng Undeb y Brigadau Tân (FBU) a'r Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr dros y newidiadau arfaethedig i drefniadau pensiwn.  Fodd bynnag,  prif flaenoriaeth yr Awdurdod yw sicrhau diogelwch y cyhoedd."

 

Gofynnir i unrhyw un sydd am alw'r gwasanaeth tân ac achub ynglŷn â mater nad ydyw'n fater brys yn ystod yr achos o weithredu diwydiannol i aros hyd nes i'r gwasanaeth arferol gael ei adfer cyn gwneud yr alwad honno .

 

 

 

Sut allwch chi gadw'n ddiogel rhag tân? Dyma air i gall ar ddiogelwch tân;

Larymau Mwg - Gosodwch larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref a phrofwch hwy yn rheolaidd. Dylid gwirio'r batris unwaith yr wythnos a'u newid o leiaf unwaith y flwyddyn.

Coginio - Cymrwch ofal arbennig wrth goginio. Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio. Peidiwch â llenwi eich sosban tsips fwy na thraean. Peidiwch byth â rhoi bwyd i mewn yn eich sosban tsips os bydd yr olew yn mygu - trowch y gwres i ffwrdd a gadewch iddo oeri. Peidiwch byth â choginio os ydych dan ddylanwad alcohol.

Canhwyllau -Peidiwch â defnyddio canhwyllau yn rhy agos at lenni. Peidiwch â gadael canhwyllau heb neb i gadw llygaid arnynt.  Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau'n cael eu diffodd yn gywir bob amser.

Matsis- Cadwch fatsis a thanwyr  ymhell o gyrraedd plant.

Defnyddiau Ysmygu- Defnyddiwch flwch llwch priodol bob amser.  Diffoddwch ddefnyddiau ysmygu yn gywir. Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.

Cynllun Dianc- Cynlluniwch eich llwybr dianc gyda phawb. Cofiwch  gynnwys plant a'r henoed bob amser.  Caewch bob drws gyda'r nos a diffoddwch yr holl gyfarpar trydanol yn y plwg oni bai eu bod yn cael eu defnyddio.

Tanau Agored- Rhowch gard dân o flaen pob tân agored. Peidiwch â sychu dillad yn rhy agos i dân agored.

Trydan - Newidiwch unrhyw geblau sydd wedi gwisgo neu dreulio. Defnyddiwch y ffiwsiau cywir mewn offer trydanol domestig. Profwch flancedi trydan unwaith y flwyddyn. Peidiwch â gorlwytho socedi.

Diogelwch tân i fusnesau yn ystod y gweithredu diwydiannol:

Er mwyn sicrhau bod eich adeilad yn parhau i fod yn ddiogel rhag tân yn ystod achos i weithredu diwydiannol:

 

Yn gyntaf, dylai perchnogion busnes adolygu eu Hasesiad Risgiau Tân ac, os bydd angen gwneud newidiadau, rhoi'r rhain ar waith ar unwaith.  Yn ogystal â hyn, bydd angen cymryd rhagofalon i atal tanau rhag cynnau. Gall hyn fod cyn symled â cherdded o gwmpas yr adeilad ar ddiwedd diwrnod gwaith er mwyn gwneud yn siŵr nad oes defnyddiau hylosg yng nghyffiniau'r adeilad.

 

Bydd angen i berchnogion wneud yn siŵr bod holl aelodau'r staff yn ymwybodol o'r gweithdrefnau ar gyfer lleihau'r tebygolrwydd o dân a bod pawb yn parhau i fod yn effro i beryglon tân. Bydd yr hyn sydd angen i berchnogion unigol eu gwneud yn ddibynnol ar eu Hasesiad Risgiau Tân eu hunain.

Yn ystod unrhyw gyfnod o weithredu diwydiannol, y 'Person Cyfrifol' fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gynnal y rhagofalon tân yn yr adeilad fusnes, ac felly cynghorir perchnogion busnes i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, er mwyn gwneud yn siŵr bod staff, ymwelwyr a'r adeilad yn ddiogel.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen