Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân yn gweithio gyda phobl ifanc ym Mharc Caia er mwyn hybu diogelwch tân

Postiwyd

 

Y mae diffoddwyr tân lleol yn ardal Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc ym Mharc Caia i greu ffilmiau byr sydd yn hybu diogelwch tân ac effeithiau negyddol cynnau tanau bwriadol.

 

Dyma fenter newydd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Thîm Partneriaeth Ieuenctid Parc Caia a lansiwyd yn gynharach eleni.  Mae'r Tîm wedi cael eu sefydlu gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam er mwyn darparu gwasanaethau i bobl ifanc  ar yr ystâd. Cafodd diffoddwyr tân llawn amser o Orsaf Dân Wrecsam eu hanfon i wahanol glybiau ieuenctid ym Mharc Caia i weithio gyda'r bobl ifanc sydd yn defnyddio'r gwasanaeth  er mwyn creu fideos byr.

 

Fe gydweithiodd y diffoddwyr tân gyda'r Tîm Ieuenctid i ymweld â'r clybiau, creu perthynas gyda'r bobl ifanc a gweithio gyda hwy i greu clip fideo byr a fyddai'n cyfathrebu'r neges bwysig hon drwy gyfrwng o'u dewis hwy.

 

Cafodd pobl ifanc o glybiau ieuenctid Pentre Gwyn, Venture a Kingsley Circle gyfle i weld eu ffilmiau ar sgrin fawr yr wythnos diwethaf yn ystod ymweliad i Orsaf Dân Wrecsam. Y ffilm a gynhyrchwyd gan glwb ieuenctid Pentre Gwyn ddaeth i'r brig gan banel o feirniaid.  Fe enillodd y clwb dalebau gan Gyngor Sir Wrecsam i fynd i Waterworld, yn Wrecsam. Diolchwyd i' tri grŵp am eu gwaith caled a chyflwynwyd gwobr fechan iddynt.

 

Ewch i www.facebook.com/Northwalesfireservice neu www.gwastan-gogcymru.org.uk neu  http://www.youtube.com/watch?v=mRBmrNuzi_s i wylio'r fideo.

 

 

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r prosiect hwn wedi rhoi cyfle gwych i ni ymgysylltu gyda'r bobl ifanc ym Mharc Caia a chreu perthynas dda gyda hwy.  Mae wedi gwneud i'r bobl ifanc feddwl mwy am yr effeithiau negyddol y mae tanau bwriadol yn ei gael a phwysigrwydd diogelwch tân yn y cartref.  Rydym yn gobeithio y byddant yn cadw'r negeseuon hyn mewn cof yn y dyfodol.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Bartneriaeth Parc Caia am gydweithio gyda ni yn y dull arloesol hwn."

 

Fe ychwanegodd Jonathan Stumpp o Dîm Partneriaeth Ieuenctid Parc Caia: "Mae'r prosiect wedi bod yn ffordd dda o ddatblygu perthynas a pharch tuag at ddiffoddwyr tân lleol ac mae'r bobl ifanc wedi cael mewnwelediad i'r gwaith y maent yn ei wneud a chanlyniadau posib tanau a chynnau tanau yn fwriadol.

 

"Rydym yn falch ein bod wedi cael cyfle i weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac rydym yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu'r berthynas hon a chydweithio gyda hwy a'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn y dyfodol."

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen