Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Erfyn ar i gymunedau ‘gymryd pwyll arbennig’ pan fydd diffoddwyr tân yn mynd ar streic am y pedwerydd tro

Postiwyd

Y mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru unwaitht eto yn erfyn ar i'r cyhoedd'gymryd pwyll arbennig'yn y cartref ac ar y ffyrdd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y bydd  diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol am y pedwerydd tro rhwng10 am a 2pm Dydd Mercher 13 Tachweddoherwydd yr anghydfod dros bensiynau.

Fe bwysleisiodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith: " Mae'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd sylw o ddiogelwch yn y cartref ac ar y ffordd, ond mae hyn yn bwysicach fyth yn ystod unrhyw gyfnod o weithredu diwydiannol.

"Hoffwn gysuro'r cyhoedd bod gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith ar gyfer y streic, er y byddwn yn gweld lleihad yn yr adnoddau fydd ar gael i ni oherwydd yr achos o weithredu gan Undeb y Brigadau Tân."

"Fodd bynnag, yr wyf am rybuddio ein trigolion ei bod yn bosib na fyddwn yn gallu ymateb yn y un modd ag arfer yn ystod y streic - felly atal sydd orau, cymrwch y rhagofalon tân canlynol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi a'ch anwyliaid yn ddiogel;

 

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a phrofwch y larwm yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio
  • Peidiwch ag yfed a choginio - mae'n gyfuniad peryglus. Os ydych yn llwglyd prynwch tecawê neu gwnewch frechdan.  Peidiwch ag estyn eich sosban sglodion na gadael bwyd yn coginio.
  • Ceisiwch osgoi siwrneiau diangen - os byddwch yn ddigon anffodus i ddioddef gwrthdrawiad ffordd mae'n bosib na fyddwn yn eich cyrraedd mor gyflym ag arfer
  • Diffoddwch  unrhyw gyfarpar trydanol nad ydych yn ei ddefnyddio cyn i chi fynd i'r gwely a chaewch bob drws - gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun dianc o dân
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd defnyddiau ysmygu yn iawn a chymrwch bwyll gyda chanhwyllau
  • Glanhewch ei simnai a defnyddiwch gard tân ar danau agored
  • Os bydd tân yn cynnau - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.  Peidiwch â chael eich temtio i  daclo'r tân eich hun."

 

"Rydym yn eich cynghori i fynd i arddangosfa dân gwyllt gymunedol yn hytrach na pheryglu'ch bywyd drwy gynnau tân gwyllt a choelcerthi adref - ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk i gael gwybod am nosweithiau tân gwyllt yn eich ardal chi.  Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu cynnau tân gwyllt a choelcerthi adref, cofiwch ddilyn y canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi ar ein gwefan."

 

Mae cyngor diogelwch a chyfarwyddyd ar gael i'r cyhoedd a busnesau ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'u safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ar Facebook a Twitter (#takeextracare), yn ogystal â'r newyddion lleol.

Gofynnir i unrhyw un sydd am alw'r gwasanaeth tân ac achub ynglŷn â mater nad ydyw'n fater brys yn ystod yr achos o weithredu diwydiannol i aros hyd nes i'r gwasanaeth arferol gael ei adfer cyn gwneud yr alwad honno .

Y mae Undeb y Brigadau Tân hefyd wedi cyhoeddi pleidlais arall ar gyfer mathau gwahanol o weithredu diwydiannol, a fydd yn cau Ddydd Mercher 4 Rhagfyr.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen