Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cymunedau’n dod at ei gilydd i ddathlu noson tân gwyllt

Postiwyd

 

Daeth cymunedau ar draws y Gogledd at ei gilydd neithiwr yn ystod arddangosfeydd a choelcerthi a gynhaliwyd ar draws y rhanbarth.

 

Bu i'r Uwch Reolwr Diogelwch TânGary Brandrickddiolch i'r cyhoedd am wrando ar negeseuon diogelwch Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Meddai: "Roeddwn yn falch ofnadwy o glywed na chafodd unrhyw un ei anafu'n ddifrifol yn ystod y dathliadau yn y Gogledd neithiwr, a bod mwyafrif ein trigolion wedi cymryd mantais o'r arddangosfeydd lleol a oedd wedi eu trefnu ar hyd a lled y Gogledd.  Mae'r math yma o nosweithiau yn llawer mwy diogel, mae ganddynt adnoddau da ac maent yn rhoi gwerth gorau am arian.  Y mae tân gwyllt yn achos pryder i bobl hŷn a pherchnogion anifeiliaid anwes, felly drwy fynd i arddangosfa leol rydych yn helpu i leddfu'r pryder hwn."

 

Fe dderbyniodd ystafell reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru 74 o alwadau rhwng 6pm ar y 5ed o Dachwedd a  7.30am ar y 6ed o Dachwedd.  Fe fynychodd 28 o ddigwyddiadau.   Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys nifer o goelcerthi a oedd wedi cael eu gadael yn llosgi heb neb i arofalu amdanynt a thân eithin a achoswyd gan dân gwyllt yng Nghaergybi.

 

Fe ychwanegodd Gary: "Roedd yn noson brysur i staff yr ystafell reoli a'n diffoddwyr tân oherwydd nifer y galwadau a dderbyniom - mae'r digwyddiadau hyn, y galwadau ailadroddus a'r galwadau am gyngor yn dwyn i'r amlwg y rhesymau pam ein bod yn annog trigolion i fynychu nosweithiau tân gwyllt lleol yn hytrach na chynnau tân gwyllt eu hunain. Roedd nifer o'r galwadau hyn yn cynnwys coelcerthi a oedd wedi cael eu gadael yn llosgi a rhai tanau bwriadol, sydd yn faich ar ein hadnoddau - y mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi'r drwgweithredwyr, ein diffoddwyr tân a'r gymuned gyfan mewn perygl."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen