Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn ddiogel y Nadolig hwn!

Postiwyd

 

Wrth i oleuadau Nadolig gael eu troi ymlaen ar draws y rhanbarth ac wrth i pobl baratoi i roi eu haddurniadau Nadolig i fyny'r penwythnos hwn, y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i drigolion ddilyn ychydig o gynghorion syml er mwyn cadw pawb yn ddiogel yn dros yr ŵyl.

 

Ar gyfartaledd y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei ale i un neu ddau o danau yn y cartref bob dydd - ond dros y Nadolig a'r Flwyddyn newydd mae hyn yn cynyddu i 5 tân y diwrnod.

 

Ym mis Rhagfyr 2011, roedd 47% o'r holl danau yn y cartref  y cawsom ein galw atynt wedi eu hachosi gan gyfarpar coginio, ac roeddent yn gyfrifol am 80% o'r holl anafiadau a gofnodwyd ar gyfer y mis dan sylw - roedd y cyfarpar yn cynnwys pentanau a chylchoedd trydan, poptai a microdonau.

 

Roedd 36% o danau yn y cartref wedi eu hachosi gan ddefnyddiau ysmygu, cyfarpar eraill, matsis a chanhwyllau ac offer gwresogi.

 

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: " Mae'r cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn newydd yn gyfnod i ymlacio a dathlu yng nghwmni teulu a ffrindiau -  ond mae'n bwysig eich bod yn cymryd pwyll arbennig rhag i dân ddinistrio'ch cartref, anrhegion a phethau gwerthfawr, eich anafu'n ddifrifol neu hyd yn oed eich lladd chi a'ch hanwyliaid."

 

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl gadw'n ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân drwy gadw at y deuddeng cyngor canlynol dros yr ŵyl:

1. Gwnewch yn siŵr bod goleuadau eich coeden Nadolig yn cydymffurfio â'r Safon Brydeinig.  Defnyddiwch ddyfais cerrynt gweddillion (RCD) ar gyfer offer tu allan (dyfais sy'n gallu arbed bywydau drwy ddiffodd y pŵer ar unwaith).

2. Peidiwch byth â gosod canhwyllau ar eich coeden Nadolig nac ar ddodrefn. Peidiwch â'u gadael yn llosgi heb neb gyda hwy.

3. Gwnewch yn siŵr fod eich teulu ac ymwelwyr sydd yn aros dros yr ŵyl yn gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng.  Cofiwch ymarfer eich cynllun dianc.  

4. Gall addurniadau losgi'n hawdd - Peidiwch â'u clymu wrth oleuadau neu wresogyddion.  

5. Diffoddwch gyfarpar trydanol pan na fyddwch yn eu defnyddio, oni bai eu bod wedi eu dylunio i gael eu gadael ymlaen.

6. Cymrwch bwyll gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch hwy a thynnwch y plwg cyn i chi fynd i'r gwely.  Dros y Nadolig byddwn yn defnyddio llawer mwy o offer trydanol megis goleuadau ac addurniadau yn ogystal â gemau ayb. Peidiwch â gorlwytho socedau a phlygiau - defnyddiwch lidiau diogelwch gyda'r ffiwsiau cywir.  Cyfeiriwch at ein cyfrifiannell ampau www.nwales-fireserfireservice / keeping you safe / looking after the electrics or follow this link /looking-after-the-electrics.aspx?lang=cy

7. Mae'r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin - peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno.  Dathlwch y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn ddiogel.  Mae'r perygl o ddamweiniau, yn enwedig yn y gegin, yn fwy ar ôl yfed alcohol.

8. Os ydych yn bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch hwy mewn bocs metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi ei gynnau a chadwch fwced o ddŵr gerllaw.

9. Gwnewch yn siŵr fod sigaréts wedi cael eu diffodd yn llwyr.  

10. Profwch fatri eich larwm mwg unwaith yr wythnos a defnyddiwch y Nadolig fel cyfnod i'ch atgoffa i'w lanhau a chael gwared ar lwch.

11. Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis ymhell o gyrraedd plant

12. Cymrwch amser i ymweld â pherthnasau a chymdogion hŷn y Nadolig hwn - gwnewch yn siŵr eu bod yn ddiogel rhag tân.

Fe ychwanegodd Gary: "Mae pawb yn hoffi mwynhau ei hun dros y gwyliau, ond rydym yn gofyn i bobl gadw diogelwch tân mewn cof wrth iddynt ddathlu. Hoffwn atgoffa trigolion am beryglon coginio ar ôl bod yn yfed alcohol - dydy yfed a choginio ddim yn gyfuniad doeth.

"Mae'n rhaid i nid ystyried y canlyniadau a meddwl yn ddiogel er mwyn cadw'n ddiogel."

Am ragor o gyngor ar ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn eich cartref yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim.

I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen