Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Ffyrdd

Postiwyd

Yr wythnos hon bydd diffoddwyr tân o bob cwr o'r Gogledd yn erfyn ar i yrwyr gymryd sylw o ddiogelwch ffyrdd a chanolbwyntio wrth yrru fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffyrdd 2013 (18-24 Tachwedd).

 

Wythnos Diogelwch Ffyrdd yw'r digwyddiad diogelwch ffyrdd mwyaf yn y DU.  Mae'n cael ei gydlynu'n flynyddol gan Brake ac y mae miloedd o ysgolion, sefydliadau a chymunedau yn cymryd rhan bob blwyddyn.

 

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi eu hymgyrch diogelwch eleni sydd yn canolbwyntio ar 'fod yn effro i ddiogelwch ffyrdd' er mwyn helpu i gadw gyrwyr, teithwyr a cherddwyr yn ddiogel yn ein rhanbarth.

 

Y mae Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol, yn egluro:  "Rydym yn delio gyda digwyddiadau ar wahân i danau - rydym yn cael ein galw i nifer o wrthdrawiadau ffyrdd ac yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i addysgu gyrwyr ifanc am ganlyniadau difrifol goryrru a pheidio â chanolbwyntio wrth yrru.

 

"Gyrru ydy un o'r pethau mwyaf peryglus yr ydym ni yn ei wneud o ddydd i ddydd ac felly mae gofyn  i ni ganolbwyntio. Y mae nifer o yrwyr yn orhyderus ac yn teimlo anghyffyrddadwy yn eu ceir, ac yn aml iawn gwelwn bobl yn ceisio gwneud dau beth ar unwaith.

 

"Er ei bod hi'n anghyfreithlon defnyddio ffôn symudol i ffonio neu anfon negeseuon testun wrth yrru, mae bron i draean ohonom yn torri'r gyfraith, ac er bod eraill yn defnyddio cit heb ddwylo mae'r ddau beth yn gallu achosi i ni beidio â chanolbwyntio ar y ffordd.  Y mae pethau eraill a all achosi i  ni beidio â chanolbwyntio, megis ysmygu a bwyta, hefyd yn cynyddu'r tebygolrwydd o achosi damwain, ond y mae nifer o yrwyr yn cyfaddef eu bod yn euog o hyn.

 

"Ond y mae'r broblem o ddiffyg canolbwyntio hefyd yn broblem i bobl ar wahân i yrwyr. Gall pethau fel chwarae gyda ffonau symudol, gwrando ar gerddoriaeth ac anghofio gafael yn llaw plentyn fod yn drychinebus i gerddwyr a seiclwyr; mae'n rhaid i bawb sydd yn defnyddio ein ffyrdd gymryd pwyll.  

 

"Rydym yn cefnogi Wythnos Diogelwch Ffyrdd ac yn gofyn  i bawb gymryd sylw o ddiogelwch ffyrdd -  y mae hyn yn golygu addo canolbwyntio ar y dasg sydd ar waith, a pheidio byth â pheryglu eich bywyd chi ac eraill er mwyn ateb galwad, anfon neges destun neu unrhyw weithgaredd arall.

 

"Yn ystod yr wythnos bydd apêl sydd yn gofyn i yrwyr ddiffodd eu ffonau symudol pan fyddant yn y car a pheidio â cheisio gwneud dau beth ar unwaith.  Ond y mae gofyn i ni hefyd gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel, drwy beidio â siarad gyda rhywun ar y ffôn os ydynt yn gyrru, a chanolbwyntio pan fyddwn yn defnyddio'r ffordd ar droed ac ar feic, drwy dynnu clustffonau a chadw at godau'r groes werdd er mwyn croesi'r ffordd yn ddiogel."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen