Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y bedwaredd streic yn dod i ben a’r gwasanaeth arferol yn cael ei adfer

Postiwyd

 

Y mae'r achos o weithredu diwydiannol pedair awr a oedd wedi ei drefnu gan ddiffoddwyr tân yn Nghymru a Lloegr y prynhawn yma (Dydd Mercher 13eg Tachwedd) wedi dod i ben.

 

Dyma oedd y bedwaredd streic i gael ei threfnu gan Undeb y Diffoddwyr Tân yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth dros bensiynau.

 

Fe ddywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rheoli ei wasanaethau'n effeithiol yn ystod y streic.

 

"Yn amlwg, oherwydd y streic, roedd lleihad yn yr adnoddau a oedd ar gael i ni ond cafodd ein cynlluniau parhad busnes eu rhoi ar waith yn effeithiol ac unwaith y daeth y streic i ben fe lwyddom i adfer y gwasanaeth arferol yn gyflym a diogel.  

 

"Unwaith eto, hoffwn fachu ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch - cawsom ein galw i ddau ddigwyddiad yn ystod y streic pedair awr.  Un o'r digwyddiadau hyn oedd awyren ysgafn a oedd yn paratoi i wneud glaniad brys ym maes awyr Penarlâg ym Mrychdyn - fe adawom y safle unwaith y  bu i'r awyren lanio'n ddiogel.  Tân mewn atig yng Nghyffordd Llandudno oedd yr ail ddigwyddiad, ond ar ôl cyrraedd canfuwyd mai galwad ddiangen oedd hon

 

"Er bod y streic drosodd, ni wyddom eto a fydd rhagor o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân ac felly hoffwn eich atgoffa ei bod yn bwysig iawn i chi gymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd."

 

Y mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen