Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Streic ddiweddaraf y diffoddwyr tân yn dod i ben a’r ‘gwasanaeth arferol’ yn cael ei adfer

Postiwyd

Daeth y cyfnod o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 11pm Nos Wener 1af Tachwedd.  

Dyma'r ail gyfnod o weithredu diwydiannol gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) sydd yn protestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau

 

Fe ddywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith ei fod yn hapus gyda'r ffordd yr oedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rheoli ei wasanaethau yn ystod y streic.

"Fe ddewisodd nifer uchel o ddiffoddwyr tân i fynd ar streic unwaith yn rhagor, ac o ganlyniad gwelwyd lleihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni.  Nid oedd yn bosib i ni ymateb yn yr un modd i ddigwyddiadau ac fe roesom flaenoriaeth i ddigwyddiadau lle'r oedd bywydau yn y fantol.

"Fe weithiodd ein trefniadau i ddarparu gwasanaeth yn ystod y streic yn dda. Fe roddwyd ein trefniadau parhad busnes cadarn a chyfarwydd ar waith y effeithiol ac unwaith y daeth y streic i ben fe lwyddom i adfer y gwasanaeth yn gyflym a diogel.

"Ni dderbyniom gymaint â hynny o alwadau ag yr oeddem wedi ei ddisgwyl ar Nos Wener a hoffwn fachu ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch.

"Cafodd y Gwasanaeth ei alw i wrthdrawiad traffig difrifol cyn i'r streic ddechrau a hoffwn gymeradwyo ein staff am barhau i ddelio gyda'r digwyddiad er gwaetha'r ffaith bod y streic wedi cychwyn ac am ymddwyn yn broffesiynol.

"Bydd diffoddwyr tân yn gweithredu'n ddiwydiannol eto fore dydd Llun y 4ydd o Dachwedd am ddwy awr rhwng 6am-8am, ac felly hoffwn atgoffa pobl ei bod yn bwysig eu bod yn cymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd a pharhau i annog pawb i gymryd camau syml i'w cadw'n ddiogel.

• Atal sydd orau - talu sylw arbennig i ddiogelwch tân yn y cartref.

• Sicrhau bod gennych larwm mwg gweithredol- galwch ni ar 0800 169 1234 i drefnu archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim neu cysylltwch â ni drwy fynd i www.larwmmwgamddim.co.uk

• Os bydd tân yn cynnau - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999


• Peidiwch â chael eich temtio i daclo'r tân eich hun.


• Ceisiwch osgoi siwrneiau diangen yn ystod y streic a chymrwch bwylla r y ffyrdd -  os byddwch yn ddigon anffodus i ddioddef gwrthdrawiad ffordd mae'n bosib na fyddwn yn eich cyrraedd mor gyflym ag arfer."

Mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar gael yma www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen