Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio pobl i osod larymau mwg yn dilyn tân ym Metws yn Rhos

Postiwyd

 

Y mae swyddogion tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg wedi i fflat ym Metws yn Rhos gael ei ddinistrio gan dân.  Roedd dau o bobl yn ffodus iawn eu bod wedi llwyddo i ddianc o'r tân yn ddianaf.  

 

Doedd dim larymau mwg yn yr eiddo.  Fe anfonwyd dau griw o Abergele i'r eiddo ar Ffordd Gwern Ciliau, Betws yn Rhos i ddelio gyda'r tân am 01.42o'r gloch y bore yma, Dydd Mawrth Hydref 8fed.

 

Fe ddefnyddiodd ddiffoddwyr tân bedair set o offer anadlu ac un bibell ddŵr i ddiffodd y tân.  Roedd yr holl breswylwyr wedi llwyddo i adael yr eiddo erbyn i'r Gwasanaeth Tân ac Achub gyrraedd ac nid oeddent wedi cael eu hanafu.

 

Fe achosodd y tân ddifrod tân 90% i'r fflat llawr gwaelod a difrod mwg 20% i'r fflat uwch ben.

 

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

 

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Ni allaf bwysleisio digon pa mor ffodus yw'r ddau breswylydd a'u cymdogion eu bod wedi llwyddo i ddod allan yn fyw.

 

"Mae tân yn gallu lledaenu'n gyflym iawn, ac rydych mewn perygl mawr o farw mewn tân yn y cartref oni bai fod y tân yn cael ei ganfod yn fuan gan larymau mwg.  Fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i'r eiddo ac y mae'n amlygu pa mor ddinistriol yw tân.

 

"Rydych yn rhoi eich bywyd chi a'ch anwyliaid yn y fantol drwy beidio â gosod larymau mwg yn y cartref. Pam eu rhoi hwy mewn perygl?

 

"Mae larwm mwg gweithredol yn hanfodol i'ch cadw chi'n ddiogel - mae larymau mwg hefyd yn rhoi rhybudd cynnar gan roi amser i chi fynd allan yn ddianaf.  Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  I gofrestru ffoniwch ein llinell rhaffon 24 awr ar 0800 169 1234, neu ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen