Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio ynglŷn â chanhwyllau yn dilyn tân ym Mae Colwyn

Postiwyd

 

Y mae Uwch Reolwr Diogelwch Tân yn erfyn ar i deuluoedd sydd yn dathlu Calan Gaeaf i gymryd pwyll gyda chanhwyllau yn dilyn tân mewn fflat ym Mae Colwyn ddoe lle bu'n rhaid anfon dynes i'r ysbyty.

 

Fe anfonwyd criwiau o Fae Colwyn a Llandudno i'r  fflat ar Ffordd Abergele, Bae Colwyn am 16. 03 o'r gloch ddoe, dydd Mercher 30ain Hydref wedi i chwa o wynt o ffenest agored chwythu llenni tuag at gannwyll gyfagos.  Fe aeth y llenni ar dân ac fe anfonwyd y ddynes i'r ysbyty am driniaeth oherwydd ei bod wedi anadlu mwg ac oherwydd ei bod wedi dioddef mân losgiadau.

 

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 

"Mae'r digwyddiad ddoe yn dangos pa mor beryglus ydy canhwyllau.  Pob blwyddyn ar noson calan gaeaf mae plant a phobl yn cael eu hanafu gan ganhwyllau neu dân gwyllt ar ôl i wisgoedd fflamadwy neu wallt fynd ar dân.  Y mae clogynnau plastig a bagiau bin, sydd yn aml yn cael eu defnyddio fel rhan o wisg, hefyd yn beryglus iawn.

 

"Y mae llusernau cartref sydd wedi eu gwneud o bwmpenni a chanhwyllau yn hynod beryglus.  Pe byddai'r gannwyll yn disgyn drosodd gallai achosi i wisgoedd, llenni, dillad neu ddodrefn fynd ar dân ac achosi tân difrifol.

 

"Ni ddylech fyth wneud llusernau allan o boteli plastig neu gynhwysyddion eraill.  Mae hyn yn beryglus iawn a pe byddai rhywun yn eu defnyddio yn y modd anghywir gallai hyn arwain at losgiadau ac yn ogystal â thanau."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen