Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru’n pwysleisio pwysigrwydd cynlluniau diogelwch yn y gymuned ataliol wrth Weinidogion y Llywodraeth

Postiwyd

Fe wnaeth y tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig gyflwyno arddangosfa ddeniadol o'u cynlluniau diogelwch yn y gymuned i Aelodau Cynulliad yn y Senedd yr wythnos diwethaf.

Yn ystod y digwyddiad, rhoddwyd cyfle i'r AC i siarad ag ymarferwyr diogelwch yn y gymuned o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, er mwyn dysgu mwy am sut mae strategaethau arloesol y tri Gwasanaeth yn helpu i gadw cymunedau Cymru'n ddiogel.  Roedd y diwrnod yn gyfle hefyd i arddangos sut mae'r cyllid a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Ymgysylltu ag Ieuenctid, Lleihau Llosgi Bwriadol, Partneriaethau Trydydd Sector a Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref, yn cynorthwyo'r tri Gwasanaeth i gyflawni yn unol ag agenda diogelwch cymunedol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Chris Davies, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

"Mae ein ffocws ataliol wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, o faes mwy traddodiadol diogelwch yn y cartref i gynorthwyo amrywiaeth eang o gymunedau amrywiol mewn meysydd megis diogelu plant ac oedolion agored i niwed, datblygu ieuenctid ac ymgysylltu â grwpiau ethnig lleiafrifol.  Rhoddodd y gwahoddiad i arddangos ein gwaith yn y Senedd gyfle da i ddangos i'r Gweinidogion sut mae eu buddsoddiad yn galluogi'r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru i ymgysylltu'n llwyddiannus gydag aelodau o'n cymunedau sydd fwyaf agored i niwed."  

Dywedodd Dawn Docx, Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  "Diogelu ein cymunedau yw ein blaenoriaeth bennaf, ac roedd ymuno â'r ddau wasanaeth tân ac achub arall yng Nghymru, i arddangos ein gwaith yn y Senedd, yn gyfle gwych i arddangos ein hamrywiaeth eang o raglenni a chynlluniau blaenweithgar, a luniwyd i leihau amledd ac effaith tanau ledled Cymru."

Mae ffotograffau o'r digwyddiad ar gael ar dudalen Facebook y Gwasanaeth: https://www.facebook.com/media/set/?set=a.10151661012277397.1073741866.265177017396&type=1 <http://track.vuelio.uk.com/z.z?l=aHR0cHM6Ly93d3cuZmFjZWJvb2suY29tL21lZGlhL3NldC8%2fc2V0PWEuMTAxNTE2NjEwMTIyNzczOTcuMTA3Mzc0MTg2Ni4yNjUxNzcwMTczOTYmYW1wO3R5cGU9MQ

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen