Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn arbed £3M drwy gydweithredu ar draws Cymru

Postiwyd

Y mae cydweithio a chydweithredu ar brosiectau allweddol wedi dechrau dwyn ffrwyth i'r tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru.

 

Yn ei adroddiad blynyddol cyntaf a gyhoeddwyd heddiw (25ain Hydref 2013) fe gyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cenedlaethol (PMC), a sefydlwyd i wneud y gorau o gydweithio ar draws y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru, ei fod wedi arbed ychydig dros £ £3.1 miliwn a fydd yn cael ei wireddu dros y pum mlynedd nesaf.

 

Mae hyn yn ychwanegol i'r arbedion a sicrhawyd gan y tri awdurdod fel rhan o'u prosesau i bennu eu cyllidebau unigol.

 

Mae adroddiad y PMC yn disgrifio'r llwyddiannau ers sefydlu'r pwyllgor y llynedd a'r modd y mae'r gwasanaeth tân ac achub yn bwrw ymlaen gyda'i amcan o gydweithio tuag at Gymru ddiogelach, ac ymateb i'r her o wella ei waith ar y cyd ymhellach er mwyn sicrhau arbedion ariannol heb gyfaddawdu ar lefel gyfredol y gwasanaeth.

 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf fe ganolbwyntiwyd ar sefydlu sylfaeni cadarn er mwyn llunio  partneriaethau gwaith llwyddiannus, gosod cyfeiriad clir ac amcanion tymor hir, a llunio perthynas waith glos gyda phartneriaid cydnabyddedig.

Meddai Cadeirydd y PMC, y Cynghorydd Tudor Davies a Chadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru: "Y mae ein gwaith ar y cyd yn cyflawni llawer mwy nac arbedion ariannol yn unig - rydym yn cyfathrebu'n well ar faterion ehangach sydd yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd, megis y modd yr ydym yn darparu archwiliadau diogelwch tân yn y cartref a mabwysiadau trefniadau parhad busnes cadarn.

"Mae'r flwyddyn gyntaf wedi bod yn heriol iawn, ond y mae hefyd wedi rhoi cyfle i ni weithio'n agosach gyda rhanddeiliaid allweddol. Drwy feithrin ymddiriaeth a phartneriaeth waith agos y mae pawb a oedd  yn ymwneud â chyfleon ehangach wedi cael cyfle  i ddysgu  oddi wrth ei gilydd a rhannu syniadau arloesol ar sut i ddarparu gwasanaeth tân ac achub ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru yn benderfynol o weithio gyda'i gilydd ac o ymdrechu fel tîm i yrru'r agenda a osododd Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus yn ei blaen.  Ein blaenoriaeth yw gwella ein gwaith ar y cyd a'n trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau hyd yn oed ymhellach, a gwella gwasanaethau parhaus er budd Cymru."  

Y mae adolygiad o'r sefyllfa o ran llinell sylfaen yr awdurdodau tân ac achub yn erbyn pob un o'r meysydd cydweithio allweddol wedi bod yn allweddol o ran canfod y cyfleodd i wella a chyflawni arbedion a mesur llwyddiant, ac y mae hyn wedi galluogi i'r PMC flaenoriaethu ei ffrydiau gwaith ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.

 

Y mae'r chwe maes cydweithio allweddol yn cynnwys Trefniadau Rheoli Cenedlaethol, Cyd-nerthu Effeithiol ar gyfer Argyfyngau Mawr, Caffael Cenedlaethol Cydweithredol, Swyddogaethau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant a Datblygu, Swyddogaethau Cenedlaethola r gyfer Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Cyffredin ac Arbenigol.

 

Y mae pob maes wedi ei ddatblygu yn ôl y cynllun Cymru gyfan sydd yn nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio a sicrhau arbedion, amcanion a chanlyniadau y gellid eu cyflawni yn y tymor canolig neu'r tymor hir, a mesur canlyniadau gan ddefnyddio'r fethodoleg Atebolrwydd yn seiliedig ar Ganlyniadau (RBA).

Meddai Richard Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Y mae tystiolaeth glir nid yn unig o'n cynnydd a'r hyn yr ydym wedi ei gyflawni hyd yma o ran arbedion effeithlonrwydd ac arbedion ariannol, ond hefyd o'r heriau a'r gwersi yr ydym wedi eu dysgu yn sgil hynny a'r modd yr ydym yn bwriadu symud ymlaen."

Fe gefnogwyd hyn gam Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Y mae'r holl bartneriaid wedi ymrwymo i weithio ar y cyd ac y mae aelodau'r awdurdod o wahanol bleidiau gwleidyddol wedi profi y gallant gydweithio er lles Cymru.  Y mae yna hefyd ddealltwriaeth gyffredin bod yn rhaid arddangos yr angen i gydweithio fel y gallwn fodloni'r gofynion  y mae'r gwasanaeth tân ac achub yn eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol."

Blaenoriaeth y PMC yw parhau i ddatblygu a thyfu a gwneud newidiadau angenrheidiol er mwyn llwyddo yn ei weledigaeth.

Fe eglurodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i'r maes gwasanaethau cyffredin ac arbenigol er mwyn gyflawni'r canlyniadau gorau o ran arbedion effeithlonrwydd a gwella'r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau.  Yr ydym wedi canfod meysydd newydd sydd yn debygol o arwain at arbedion a  gwelliannau sylweddol a bydd y rhain yn sail ar gyfer ein blaen raglen waith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod."

Mae'r Adroddiad Blynyddol llawn ar gael i'w weld yn fan hyn http://www.nicwalesfire.org.uk/

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen